Y Rhyfeloedd Cartref
Yn ystod y gwrthdaro, roedd rhywfaint o gefnogaeth i'r Senedd yng Nghymru, yn enwedig yn ne Sir Benfro ac yn ardal Wrecsam. Ond doedd y disgrifiad o Gymru fel meithrinfa i filwyr troed y brenin ddim yn gwbl ddi-sail. Roedd y frwydr yng Nghymru yn ymwneud yn fwyaf arbennig 芒 rheoli ffyrdd arfordirol y gogledd a'r de. Daeth y Rhyfel Cartref cyntaf i ben pan gipiwyd Castell Harlech gan luoedd y Senedd ym mis Mawrth 1647. Dechreuodd yr ail (Ebrill i Awst 1648) yn Sir Benfro gyda gwrthryfel elfennau ymhlith y Seneddwyr. Seliwyd tynged y brenin gan ei barodrwydd i ail-afael yn y frwydr a chafodd ei ddienyddio ym mis Ionawr 1649. Roedd dau aelod seneddol Cymreig ymhlith y rhai a lofnododd y warant i'w ladd. Yn ystod y Werinlywodraeth (1649-60) gwelwyd datblygiadau mawr ym myd crefydd ac addysg yng Nghymru. Ond ymhlith yr uchelwyr roedd y profiad o'r Werinlywodraeth yn cadarnhau eu barn yngl欧n 芒 rhagoriaeth llywodraeth frenhinol.
Gwleidyddiaeth cyfnod yr 么l-Adferiad
Adferwyd y Stiwartiaid i'r orsedd yn 1660 pan goronwyd Charles II. Ond yr adferwyd y frenhiniaeth, ni fedrai'r brenin reoli mwyach heb gydsyniad aelodau T欧'r Cyffredin, ac am ganrif a rhagor, roedd y grym yng Nghymru yn nwylo dim mwy nag 20 o deuluoedd a gynrychiolai'r wlad yn y Senedd.
Pennwyd canlyniadau etholiadau drwy drefniant preifat rhwng y tirfeddianwyr; rhwng 1660 a 1714 cafodd llai na 10% o aelodau seneddol Cymru eu hethol drwy bleidlais. Agwedd unigolion tuag at frenhiniaeth y Stiwartiaid oedd yn llywio teyrngarwch gwleidyddol gyda'r Chwigiaid yn cefnogi diorseddu James II yn 1688 a gorseddu llinach frenhinol Hanofer yn 1714 a'r Tor茂aid yn derbyn y newidiadau hynny yn anfoddog. Erbyn canol y ddeunawfed ganrif, yn sgil methiant y Iacobitiaid i adfer y Stiwardiaid alltud, doedd fawr o wahaniaeth rhwng y pleidiau, er bod y tirfeddianwyr yn dal i weld eu hunain fel naill ai Chwigiaid neu Dor茂aid.