Gwlad a thref
Yn y cyfnod modern cynnar roedd Cymru'n wlad hanfodol wledig. Er bod yna 54 o leoedd a allai hawlio rhywfaint o statws bwrdeistrefol, roedd cyfran helaeth ohonynt fawr mwy na phentrefi.
Y trefi 芒'r swyddogaethau llawnaf oedd y prif drefi ym mhedwar cwr y wlad: Caerfyrddin, Aberhonddu, Dinbych a Chaernarfon. Y mwyaf poblog ohonynt, mae'n debyg, oedd Caerfyrddin, tref 芒 thua 2,000 o drigolion yn 1560 a thua 4,000 yn 1770. O ran maint, roedd Wrecsam yn weddol agos.
Tyfai'r trefi wrth i bobl symud iddynt o'r ardaloedd gwledig o'u cwmpas, ardaloedd lle'r oedd y trigolion, i raddau helaeth, yn Gymraeg eu hiaith. Felly crebachu a wnaeth yr elfen Saesneg ei hiaith a fu mor nodweddiadol o drefi Cymru'r Canol Oesoedd. Er yn lleiafrif bychan, y trefwyr oedd elfen fwyaf deinamig y gymdeithas. Hybid natur angerddol leoledig cymdeithas gan gyflwr enbyd yr heolydd. Roedd meddyginiaethau llysieuol a llymeidiau hudol yn fawr eu bri. Credai pawb eu bod ar drugaredd pwerau hudol. Roedd credu mewn ysbrydion a drychiolaethau yn gyffredin iawn, a cheid awydd brwd, yn enwedig mewn cyfnodau o densiwn, i ddifodi gwrachod.
Cymru a'r Senedd
Aeth aelodau seneddol o Gymru i'r Senedd am y tro cyntaf yn 1542. Ar y dechrau, roeddent yn gymharol dawedog, ond erbyn diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg roeddent yn ddeheuig yn gwarchod buddiannau Cymru. Ychydig oedd 芒'u bryd ar yrfa wleidyddol; yn hytrach, ystyrient mai cryfhau'u statws yn eu br枚ydd oedd prif bwrpas bod yn aelod o D欧'r Cyffredin. Roedd mwyafrif aelodau seneddol Cymru'n gwbl deyrngar i'r goron, a phan gododd Charles I fyddin i herio'r Senedd yn 1642 cefnogi'r brenin a wnaeth mwyafrif y Cymry.