Trefn Eglwysig Elizabeth I
Rhwng 1558 a 1603, merch Anne Boleyn, Elizabeth I oedd yn teyrnasu. Ei nod hi oedd adfer Catholigiaeth ddi-Bab ei thad, ond bu raid iddi gydweithio 芒 gw欧r o argyhoeddiad Protestannaidd cryf. Addaswyd Llyfr Gweddi 1553 a'i dderbyn yn 1559, ac amlinellwyd credo Eglwys Loegr, a geisiai ffordd ganol rhwng Catholigiaeth Rhufain a Phrotestaniaeth radical, yn y Deugain Erthygl Namyn Un. Derbyniodd y Cymry'r newidiadau, yn rhannol oherwydd llediad y myth mai Protestaniaeth oedd Cristnogaeth wreiddiol Cymru, a bod arferion 'Rhufeinllyd' wedi llygru purdeb y grefydd honno.
Cafodd y chwedl ei lledaenu yn rhagymadrodd Richard Davies, esgob Tyddewi, i'r cyfieithiad Cymraeg o'r Testament Newydd yn 1567, gwaith William Salesbury yn bennaf. Ymddangosodd y cyfieithiad mewn ymateb i orchymyn seneddol 1563 y dylai Beibl Cymraeg fod ar gael ym mhob eglwys blwyf yng Nghymru. Roedd yn orchymyn eironig, oherwydd roedd yn golygu bod y senedd yn awdurdodi'r defnydd o'r Gymraeg mewn materion ysbrydol o fewn cenhedlaeth i wahardd defnyddio'r iaith mewn materion secwlar. Ond yn oes Elizabeth, roedd yr awdurdodau o'r farn bod unffurfiaeth grefyddol yn bwysicach nag unffurfiaeth ieithyddol.
Cyhoeddwyd y Beibl cyfan yn Gymraeg yn 1588, gwaith rheithor o Sir Ddinbych, William Morgan. Y mae cyfieithiad gorchestol Morgan yn golygu mai'r Gymraeg oedd yr unig iaith anwladwriaethol yn Ewrop i ddod yn gyfrwng Beibl cyhoeddedig o fewn llai na chanrif i ddechrau'r Diwygiad Protestannaidd, ffaith a fyddai'n allweddol i dynged yr iaith yn y dyfodol.
Gwrthwynebiad i drefn eglwysig Elizabeth I
Nid pawb yng Nghymru a dderbyniodd drefn eglwysig Elizabeth I. Pan goronwyd hi, ffodd tua phymtheg o offeiriaid Cymreig i dir mawr Ewrop i gynllwynio i adennill eu gwlad i Rufain. Bu gan rai Cymry eu rhan yn y cynllwynion i ddisodli Elizabeth a choroni ei chyfnither Gatholig, Mari, brenhines yr Alban, yn ei lle. Yn bennaf oherwydd effeithiolrwydd gryn y wladwriaeth, derbyn y drefn newydd a wnaeth mwyafrif pobl Cymru, a mynychu gwasanaethau'r eglwys wladol. Roedd y sefyllfa'n wahanol iawn yn Iwerddon, lle methodd y llywodraeth rwystro ymgyrchoedd yr urddau Catholig, ac felly aros yn ffyddlon i Gatholigiaeth Rufeinig a wnaeth trwch y Gwyddelod. Ni enillwyd fawr ddim cefnogaeth gan Brotestaniaeth fwy radical, er i'r piwritan, John Penri o Sir Frycheiniog, gwrthwynebydd chwyrn i esgobion y cyfnod, gael ei grogi yn 1593; mewn canrifoedd diweddarach, fe'i hystyriwyd yn ferthyr cyntaf Ymneilltuaeth Gymreig.