Cyhoeddi'r llyfrau Cymraeg cyntaf
Yn 1539 rhoddodd y brenin ganiat芒d i gyhoeddi'r Beibl yn Saesneg a chyhoeddwyd Llyfr Gweddi Thomas Cranmer yn 1544. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddwyd y llyfr Cymraeg cyntaf, gwaith John Prys, Aberhonddu. Ei gynnwys oedd y Credo, Gweddi'r Arglwydd a'r Deg Gorchymyn. Dyma ddechreuad cyhoeddi yn y Gymraeg.
Rhwng 1546 a 1660 cyhoeddwyd 108 o lyfrau Cymraeg, rhif bychan o'i gymharu 芒'r llyfrau a gyhoeddwyd yn Saesneg neu Ffrangeg, ond nifer sylweddol o'i gymharu 芒'r ieithoedd Celtaidd eraill. Yn yr un cyfnod dim ond 4 llyfr Gaeleg gafodd eu cyhoeddi a dim ond 11 yn yr Wyddeleg.
Teyrnasiad Edward VI
Y bachgen frenin, Edward VI, Protestant penboeth, a deyrnasai rhwng 1547 a 1553. Cafodd Catholigiaeth ei wrthod yn bendant wrth i'w gynghorwyr ddisodli'r offeren gyda'r gwasanaeth cymun. Rhoddwyd caniat芒d i offeiriaid briodi. Cyhoeddwyd Y Llyfr Gweddi Cyffredin yn 1549, a ffurf fwy Protestannaidd ohono yn 1553. Yn 1551, cyhoeddodd William Salesbury, ysgolhaig o Sir Ddinbych, gyfieithiad Cymraeg o lithiau'r Llyfr Gweddi.
Teyrnasiad Mari I
Merch Catherine o Aragon, Mari, oedd ar yr orsedd rhwng 1553 a 1558. A hithau'n Babyddes frwd, adferodd awdurdod y Pab a cheisiodd ddadwneud newidiadau ei dau ragflaenydd. Anfonodd 300 o hereticiaid i 'w llosgi wrth y stanc, gan gynnwys White yng Nghaerdydd, Nichol yn Hwlffordd a Ferrar, esgob Tyddewi, yng Nghaerfyrddin. A thrwch y Cymry'n o geidwadol, dichon eu bod wedi cefnogi ymgyrchoedd Mari. Pe bai wedi byw yn hwy efallai y byddai Cymru wedi dod yn gadarnle Pabyddiaeth adnewyddedig.