MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Chwaraeon Y Tywydd |
||
91热爆 91热爆page Cymru'r Byd Addysg |
||
禄 | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
Lleoliadau a Setiau Fe fu'r gwaith o ddarganfod lleoliadau ar gyfer y ddrama yn dipyn o broblem i'r t卯m cynhyrchu. Twr Bryncir ger Dolbenmaen ddefnyddiwyd ar gyfer y golygfeydd allanol, Eglwys Santes Fair yn Nhremadog ar gyfer golygfeydd mewnol yr act gyntaf, a dwy ystafell wahanol yn Ty'r Twr, Y Felinheli ar gyfer y ddwy act olaf. Cynllunydd y cynhyrchiad oedd John Thompson. Dyma rai sylwadau ganddo: "Mae'r darn yma'n wahanol iawn i unrhyw gynhyrchiad dwi wedi gweithio arno o'r blaen, a hynny'n syml am mai darn abstract ydi'r ddrama. Er ein bod yn delio ag o yn y ffilm mewn ffordd realistig, mae'n dipyn o ddrama ymenyddol." Cliciwch ar y llun i weld golygfa o'r lleoliadau Un o'r rhannau pwysicaf ar set y ddrama yw'r grisiau, yn yr act gyntaf maent yn llydan ac yn theatrig iawn, ac yn culhau a thynhau er mwyn rhoi'r argraff o dwr yng ngweddill y ddrama.
听 Mae lliwiau hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y ddrama hon, mae'r lliwiau yn dyfnhau ac yn cyfoethogi wrth ddringo'r twr nes creu teimlad clostroffobic ar y llawr uchaf. Ychydig iawn o brops ddefnyddir yn yr act gyntaf, dim ond chaise a drych. Yn yr ail act, defnyddir lliwiau a chelfi mwy cyfoethog, chesterfields a phatrymau William Morris. Mae'r drydedd act yn debycach i stafell mewn atic gyda'r blerwch sy'n cael ei gasglu mewn bywyd. . | |||||||||
漏 MMI |
|
About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |