91热爆


Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91热爆 91热爆page

Cymru'r Byd
Addysg
Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Astudio'r Ddrama

Barn y Beirniaid

'Dylanwadau' (1989)
Gwenlyn Parry yn trafod ei waith ei hun

'Stiwdio 1' (1991)
Harri Pritchard Jones yn trafod gwaith Gwenlyn

Dewi Z Phillips - Dram芒u Gwenlyn Parry, Gwasg Pantycelyn (1982)

1. 'Chwarae cystadleuol rhwng dynion sydd wedi eu goresgyn gan ddieithrwch: wedi聮u dieithrio o ran cariad, gwaith a hyd yn oed o ran marwolaeth ei hun.'

2. 'Mae llawer o聮r hyn sydd ym mywyd y ddau gymeriad yn Y Twr yn wamal... gellir dweud bod yr hyn sy聮n bwysig yn cael ei amlygu trwy ei absenoldeb... Oni chyfyd trafferthion dwfn yn y briodas gan fod yr hyn sy聮n wir bwysig yn absennol o聮r briodas.'

3. 'Onid yw聮r ddau gymeriad ar goll ac wedi聮u drysu? Dyna pam bod y Twr, yn anad dim, yn ddrama am ddieithrio ym mywyd dyn.'

4. 'Yr ystafell yn aros yn ddigyfnewid yn y b么n er bod y cymeriadau聮n heneiddio... Mae popeth yr un peth am eu bod hwy yr un peth 聳 ni allant ymroi i unrhyw beth sylweddol mewn gwirionedd am unrhyw gyfnod o amser.'

5. 'Marwolaeth. Bydd popeth drosodd ryw ddydd- dyna聮r pwynt. Ystyr y cyfan yw gollyngdod rhag yr hagrwch bl锚r.'

Saunders Lewis - Rhagymadrodd Y Twr, Gwasg Gomer (1979)

'...bardd o ddramaydd, sy'n cogio bod yn ddyn y 91热爆 yw ef. Ac y mae ei rhuthmau ef yn gofyn cryn graffter yn ei actorion.'

'Fe wyr Mr.Parry sut i glymu'n un ei lwyfan a'i gynulleidfa, ond na thybied neb mai poblogrwydd yw ei nod. Araf hefyd y dylid darllen ei ddrama; nid rhaid brysio; nid oes dim yn digwydd ond byw a'i boen.'

Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru - Gol. Meic Stephens Gwasg Prifysgol Cymru (1986)

'Er bod ei arddull yn anllenyddol o'i gymharu 芒 dramodwyr cyfoes Cymraeg, profodd fod ganddo glust ardderchog ar gyfer deialog a thafodiaith.'

Bob Roberts - Y Faner (1978)

'Camp Gwenlyn Parry yw iddo lwyddo i greu alegoriau o arwyddoc芒d oesol allan o ferw ei brofiadau preifat.'

Gwynne Wheldon Evans - Y Twr: Pedair Trafodaeth ar y Ddrama, Astudiaethau Theatr Cymru: Rhif 8

'Cawn yr argraff fod y ddau gymriad yn rhydd i wneud a dweud yr hyn a fynnant yn y rhannau sy'n portreadu digwyddiadau yn eu bywyd bob dydd. Maent hwy'n credu hyn hefyd. Y ffaith amdani yw eu bod yn gaeth i ryw gynllun neu bwer sy'n eu cymell i symud o stafell i stafell o fewn y twr. Mae'n ymddangos, felly, eu bod yn cael eu rheoli gan y pwer hwn sy'n dangos ei rym a'i ddylanwad ar yr adegau pwysig, allweddol sy'n ffurfio eu tynged, sef adegau'r symud o stafell i stafell.'

William R.Lewis - Gwenlyn Parry a Theatr yr Abswrd: Pedair Trafodaeth ar y Ddrama, Astudiaethau Theatr Cymru: Rhif 8

'Er bod Gwenlyn Parry yn awgrymu fod bywyd y ddeuddyn yn Y Twr yn wag, yn ddiystyr, yn 'abswrd' hyd yn oed, teimlir fod yma feirniadaeth ar eu cyflwr hefyd... Beirniadaeth sydd yma ar gymdeithas sy'n peri fod dau unigolyn yn profi'r fath wacter a diwiethrwch. Moesolwr yw'r dramodydd... Yr hyn a wnaeth Gwenlyn Parry oedd mabwysiadu rhai elfennau gweledol Theatr yr Abswrd er mwyn rhoi cyffro dramatig i'w ddram芒u.'

91热爆
漏 MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad

Astudio'r Ddrama
Beth yw Drama?
Arholiad Llafar
Dan groen y ddrama
Cynlluniau Marcio
Barn y Beirniaid
Ysgrifennu Creadigol

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy