Nant y Pandy Mae Gwarchodfa Natur Nant y Pandy o fewn dyffryn coediog 10 hectar (25 acer) gyda'r afon Cefni yn rhedeg drwyddo.
Mae'r enw Nant y Pandy yn cyfeirio at hen waith prosesu gwlân a oedd yn arfer bod i fyny'r afon. Mae llawer o'r warchodfa yn goetir hynafol a dyna'r rheswm iddo gael yr enw "Y Dingle" mor bell yn ôl â'r 1830au. Yn llythrennol mae'r gair Dingle yn golygu dyffryn coediog serth.
Cerflun Porth Eglwys Cyngar Sant gan Reece Ingram. Y brif elfen yw'r gwas y neidr sy'n nodwedd o'r afon a'r llynnoedd trwy fisoedd yr haf.