"Mae coetir y Dingle yn Llangefni yn cael ei reoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys M么n ac yn Warchodfa Natur Leol ddynonedig ers 1996.
"Dechreuodd y gwelliannau yn 2002 gyda prosiect Ehangu'r Dingle pan dderbyniwyd grant Cydcoed o 拢160,000 gan y Comisiwn Coedwigaeth ac arian Amcan Un. "Gwelodd hyn 650 metr o lwybr bordiau pren, pedair pont newydd a cherfluniau pren yn cael eu creu ar y safle. Cafodd y gwaith ei wneud wedi ymgynghori gyda'r gymuned a gwaith gyda grwpiau cymunedol.
"Cyn y gwaith yma roedd y Dingle yn hafan i bobl oedd yn camddefnyddio sylweddau ac alcohol. Mae 40,000 o ymwelwyr bellach yn ymweld 芒'r Dingle yn flynyddol a gwelwyd gostyngiad mewn achosion o gamddefnyddio sylweddau ac alcohol. Credir bod defnydd rheolaidd gan y cyhoedd yn helpu i "blismona'r" ardal.
"Dechreuodd gwaith prosiect i ymestyn y Dingle yn 2004 ac mae'n cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys M么n a Chwmni Tref Llangefni ac mae wedi ei ariannu gan grant gwerth 拢122,000 gan Gronfa'r Loteri.
"Nod y prosiect hwn yw ehangu gwerth cadwraeth a chymunedol y coetir. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy brynu tir fydd yn gwneud y coetir yn ecolegol gynaliadwy a chynnwys y gymuned drwy deithiau cerdded, sgyrsiau a digwyddiadau gyda ysgolion a grwpiau lleol.
"Pan ddechreuodd y prosiect ehangu roedd y Dingle yn 10 hectar o faint. Ers hynny mae tair hectar arall wedi ei brynu ac mae'r tir yn cynnwys yr hen d欧 pwmp. Oherwydd problemau yn gysylltiedig 芒 chamddefnyddio sylweddau ac alcohol roedd angen datrys y broblem.
"Penderfynwyd trawsnewid yr adeilad yn lloches ar gyfer ystlumod a dyfrgwn, gan fod y ddau rywogaeth i'w canfod yn y coetir a'i fod yn gyfle i ehangu'r cynefin. Sicrhawyd arian cyfatebol gan Gronfa Her Natur Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Eu nod ydy sbarduno cadwraeth ymarferol ar gyfer rhywogaethau sydd yn rhan o Gynllun Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig.
"Ni fu'n bosib i'r cyhoedd gael mynediad i'r adeilad ers i'r gwaith gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2005 ac ni fu tystiolaeth o gamddefnyddio sylweddau. Mae'r gwaharddiadiad ar yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yn cynnwys rhan o'r Dingle - o'r bont reilffordd i'r eglwys. Y gobaith yw y bydd y mesur hwn yn helpu i leihau achosion o yfed yn y coetir.
"Ymysg y cynlluniau ar gyfer y dyfodol mae prynu 3.5 hectar o dir gydag arian cyfatebol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a fydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus yngl欧n 芒'r broses o blannu coed wedi eu tyfu o hadau a gasglwyd yn y Dingle. Bydd estyniad 350 metr i'r llwybr bordiau pren yn agor i'r cyhoedd yn 2006, diolch i arian cyfatebol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
"Bydd digwyddiadau cymunedol ac ymweliadau ysgolion yn parhau drwy'r flwyddyn."
Taith luniau Nant y Pandy
|