Ar 么l cael ei gwneud yn llywydd cangen y sefydliad yn Llansannan am flwyddyn, rhoddodd sgwrs i'r aelodau yn pwysleisio pwysigrwydd hanesyddol y cofnodion yn y ffordd fel roedd rhaglenni'r cyfarfodydd yn newid - o gadw moch i ail-ddefnyddio hetiau:
"Cefais bentwr o lyfrau cofnodion Sefydliad y Merched ers ei sefydlu 60 mlynedd yn 么l. Gan fy mod yn weddol newydd i'r mudiad, roedd eu darllen nid yn unig yn agoriad llygad i mi, ond yn hynod o ddiddorol. I ddechrau roeddwn yn adnabod y rhan fwyaf o'r aelodau cyntaf, ac yn wir roedd gen i gysylltiad teuluol 芒 rhai ohonynt.
Nid yn unig roedd y cofnodion yn ddifyr tu hwnt i'w darllen ond fe wnaethon nhw fi'n llawer mwy ymwybodol o ddyfeisiadau a darganfyddiadau'r oes.
Dyma ichi rai enghreifftiau: yn y dyddiau cynnar, yn y 30au, roedd cyfarfodydd am beth i'w wneud efo hen hetiau ffelt a hen sanau sidan lyle, y sanau roedd pawb yn eu gwisgo bryd hynny. Yn yr 1980au roedd dangosiadau ar beth i'w wneud efo teits neilon a choginio efo meicrodon.
Mae'r hen raglenni yn nodi sgyrsiau a dangosiadau am dressings and poultices, sut i arwain c么r, cadw ieir, cymorth cyntaf i dda byw, bwyd i bobl s芒l, sut i ofalu am gleifion sy'n dioddef o'r dici芒u.
Ar Ddydd G诺yl Ddewi fe gawson nhw sgwrs am 'Aelwyd Grefyddol' - a fwynhawyd yn fawr gan bawb!
Roedd y cystadlaethau hefyd yn ddiddorol: gwn茂o botwm gyda'r llaw chwith, trwsio sawdl hosan, cystadleuaeth grempogau yn cael ei beirniadu gan Mr Morgan yr optegydd, y sawdl hosan orau, llymru ar gyfer claf.
A r诺an am y pytiau bach sydd o ddiddordeb mawr i mi ond mae'n bechod na wnaeth yr ysgrifennydd eu cofnodi yn fwy manwl:
Yn 1934 gwahoddwyd Mrs R Preswylfa i gyfarfod i helpu i olchi'r llestri ac roedd i gael 1/- yn d芒l am eu gwasanaeth.
Penderfynwyd bod 18 o weddwon i gael eu gwahodd i'r Parti Nadolig. Ai ymgais ar matchmaking ar ran y WI oedd hyn? Fe hoffwn wybod, 1) beth am yr hen lanciau a'r hen ferched, a 2) beth oedd y canlyniad?
O ddiddordeb arbennig imi oedd fod Morfudd Owen fach wedi cyflwyno tusw o Gennin Pedr i Ms Jenkins Williams.
Yn ystod y rhyfel roedd trafodaeth am y Clwb Moch - ond chafodd y cynnig i gadw mochyn ddim ei gario.
Byddai'r ysgrifenyddion ddim ond yn ysgrifennu'r esgyrn sychion yn y cofnodion heb yn wybod eu bod yn cofnodi rhywbeth a fyddai'n dod yn ddarn o hanes cymdeithasol.
Yn ystod y 60 mlynedd mae'r sefydliad yma wedi trefnu dosbarthiadau mewn gwn茂o, paentio crochenwaith, brodwaith, gwneud rygiau, dawnsio gwerin, cadw'n heini, yn ogystal 芒 threfnu eisteddfod bentref, cyngerdd, sioe a hyd yn oed eu Noson Lawen eu hunain.
Fe gefais fy synnu hefyd gan waith caled aelodau'r WI yn ystod y rhyfel:- gweu ar gyfer y milwyr, anfon arian, jamio, canio a photelu a llawer mwy.
Cefais fy ethol yn llywydd ar y sefydliad am nad oedd neb arall eisiau'r swydd, er imi gytuno i'w llenwi, er yn anfoddog, am flwyddyn yn unig - ond teimlaf anrhydedd o fod wedi perthyn i Sefydliad y Merched yn Llansannan, sefydlaid ag iddo draddodiad mor wych."
Rhiannon Davies