Eleri Lewis, cyn athrawes Daearyddiaeth, wnaeth ysbrydoli merched clwb WI Llanfairfechan i wisgo'u 'sgidiau cerdded a mynd ati i ddarganfod yr arfordir a mwynhau'r awyr iach.
Meddai Eleri: "Ar 么l i mi ymddeol, roeddwn am i'r WI wneud rhywbeth arall heblaw cyfarfod bob dydd Llun cynta'r mis am sgwrs, felly ffurfiais glwb cerdded.
Mae 'na bron i ddeg ohonom yn mynd yn rheolaidd ac yn lle chwilio am rywle arall rownd Llanfairfechan i fynd am dro, ddaru ni benderfynu gwneud rhywbeth gyda mwy o sialens, fel cerdded llwybr arfordir M么n - ond ddim i gyd ar unwaith!"
Fe gychwynnodd y criw yn Nulas fis Mai 2006 a cherdded i fyny'r ochr ddwyreiniol.
Bu'r tywydd yn eu herbyn yn ystod haf 2007 ond fe wnaethon nhw gwblhau'r rhan olaf - o Foelfre i Ddulas - ar ddiwrnod olaf mis Hydref 2007.
"Mae'r llwybr yn wych, mae'n mynd 芒 chi i lefydd nad ydych chi'n meddwl mynd gan fod rhai ohonyn nhw yn hollol anghysbell. Wrth ddilyn y llwybr, mi ddowch ar draws golygfeydd anhygoel. Mae'n reit arw i fyny yn y gogledd, ond yn braf iawn i lawr ger Ynys Llanddwyn yn yr haf," meddai Eleri.
Diolch yn fawr iawn i Eleri a'r criw am rannu'r daith efo ni a llongyfarchiadau am ei chwblhau! Mwy am lwybr yr arfordir
|