"Ar noson oer, wlyb a gwyntog yng nghanol mis Tachwedd cafodd y rhai hynny oedd yn ddigon dewr i fentro allan i'r ddrycin y profiad anhygoel o weld perfformiad bythgofiadwy gan Cerys Matthews ar ein stepan drws yn Galeri, Caernarfon.
Cychwynnodd y noson gyda pherfformiad gwerinol, gwreiddiol, gwych gan Alun Tan Lan. Cafodd y gynulleidfa wledd o ganu gan gynnwys nifer o'i glasuron megis 'Byw Ar Ben Fy Hun', cân ramantus a fyddai'n gallu toddi'r galon galetaf.
Roedd yn eistedd ar y llwyfan ar ben ei hun gyda dim ond gitâr am gwmni, gan hoelio sylw'r gynulleidfa er ei edrychiad diymhongar, mewn jeans blêr a chrys pinc gyda'i wallt yn dawnsio o flaen ei lygaid. Cafodd y gynulleidfa flas o ddeunydd newydd Alun Tan Lan gyda nifer o ganeuon oddi ar ei ail albwm gan gynnwys 'Eira', 'Tywod'a 'Perlau'.
Unwaith eto, caneuon bregus, llawn gwres cariad gan ddangos dawn arbennig Alun Tan Lan am eiriau tyner, teimladwy sy'n taro'r galon.
Yna y foment roedd y holl gynulleidfa wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdani, daeth Cerys Matthews i'r llwyfan yn disgleirio, gan edrych yn anhygoel mewn ffrog werdd at y llawr. Perfformiwyd 'Elen', cân llawn emosiwn sy'n dod â dagrau i'r llygaid, gydag Alun Tan Lan yn cymryd y rhan a berfformiwyd gan Gruff Rhys ar y sengl a ryddhawyd yn ddiweddar.
Cafodd y gynulleidfa weld perfformiad hyderus a hudol gyda thrawsdoriad o ganeuon, o gerddoriaeth gwlad Nashville i ganeuon tyner a thrist, gan ddangos holl ystod llais Cerys Matthews o sibrwd sensitif i ganeuon cryf llawn nwyd ac emosiwn.
Cafwyd perfformiadau lu, o ganeuon oddi ar ei dwy albwm, 'Cockahoop' a 'Never Said Goodbye', gan gynnwys 'The good in goodbye' a 'Only a fool', caneuon tyner gan ddangos tristwch syrthio mewn, a cholli cariad.
Ond nid melancoli a thristwch oedd ymdeimlad y noson o gwbl, roedd yn noson llawn bywyd gyda Cerys Matthews yn llawn hwyl gan sgwrsio a thynnu coes gyda'r gynulleidfa. Roedd yr holl ganeuon yn ardderchog gan ddangos dawn amlwg i gyfansoddi caneuon llawn hwyl sy'n byrlymu gydag ysbryd gwrthryfelgar y gantores megis 'Chardonnay' a 'If you're lookin' for love'.
Daeth Cerys Matthews a nifer o ganeuon gan artistiaid newydd, ffres ac anghyffredin i ni yma yng Nghymru i sylw'r gynulleidfa gan roi ei stamp unigryw ar ganeuon gan fand y foment o America 'The Decemberists'.
Cafodd y gynulleidfa fraint o glywed Cerys Matthews yn perfformio ambell i berl Gymraeg gan gynnwys Lisa Lân, a rhoddwyd clo gwych i'r noson o adloniant anhygoel gyda pherfformiad ysgytwol o 'Arglwydd Dyma Fi'.
Dyma noson o adloniant pur, gyda pherfformiadau gwefreiddiol oedd yn ddigon i gynhesu'r holl gynulleidfa ar noson oer a gwlyb yng nghanol mis Tachwedd."
Megan Jones, Tregarth
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.