Prif leisydd y grŵp Catatonia gynt, sydd bellach yn artist unigol llwyddiannus.
Wyddech chi?: Ei hoff ddiod ydy 'siocled marwol' sef hanner o stowt, Tia Maria a Fodca.Ganwyd Cerys yng Nghaerdydd ond llaw feddyg yw ei thad a gorfu i'r teulu symud llawer yn ei ddilyn ef, i Abertawe gyntaf ac yna i ogledd Penfro ac yno mae'r teulu hyd heddiw.
Y deintydd oedd ei llysenw yn yr ysgol gynradd gan mai hi oedd yn tynnu dannedd babi'r disgyblion eraill!
Datblygodd ei diddordeb mewn cerddoriaeth yn ystod gwyliau'r ysgol yng ngogledd Penfro. Yno yr aeth hi ati i ddysgu chwarae'r gitâr acwstig a chwarae alawon y Beatles a hen alawon Cymreig.
Cafodd Lefel A mewn Bywydeg a Thecstiliau ac fe dreuliodd ychydig o amser yn astudio nyrsio seiciatrig ac yn gwarchod plant yn Barcelona, cyn mynd yn ôl i'r ysgol i ennill dwy Lefel A ychwanegol.
Yn ystod haf 1992 ffurfiwyd Catatonia - ar ôl i Mark Roberts gyfarfod Cerys yn canu ar y stryd yng Nghaerdydd yn ôl y chwedloniaeth. Cawsant gynnig recordio ar y label Crai a threulio'r blynyddoedd nesaf yn teithio a chwarae mewn gigs o gwmpas Cymru.
Cyhoeddwyd eu halbwm gyntaf 'Way Beyond Blue' yn 1996 gan roi cyfle ehangach i glywed y rîffs gitâr popaidd a'r llais arbennig.
Eu llwyddiant mawr cyntaf oedd y sengl 'You've Got a Lot to Answer For'.
Yn 1998 fe aeth y sengl 'Mulder and Scully' i'r pump uchaf ac fe ddilynodd 'Road Rage' yn fuan wedyn.
Mae'r ddwy gân ar yr albwm boblogaidd iawn, 'International Velvet' ac fe fu Cerys am gyfnod yn Frenhines Bop ac ymddangos ar dudalennau blaen y cylchgronau dynion.
Yn 1999 cyhoeddwyd albwm boblogaidd arall sef 'Equally Cursed and Blessed' a sylfaen apêl Catatonia oedd y caneuon pop llwyddiannus a pherfformiadau byw cryf iawn. Pan ryddhawyd yr albwm nesaf yn 2001 'Paper Scissors Stone' trefnwyd taith yr un pryd. Ond ddigwyddodd o ddim gan i Cerys adael y band ar sail blinder a phoen meddwl.
Yn 2002 recordiodd Cerys y thema i Sali Mali a threulio rhan o'r flwyddyn yn Nashville Tennessee yn paratoi albwm o ganeuon gwerin a gwlad. Cyhoeddwyd yr albwm ar 19 Mai 2003 sy'n gymysgedd o'r gwerin, gwlad a chaneuon gwreiddiol gan Cerys heb anghofio emyn Gymraeg.
Ddydd Sadwrn 22 Chwefror 2003 priododd Cerys y cynhyrchydd recordio o Nashville, Seth Riddle, yng Nghapel Rehoboth ger Trefin.
Ond yn anffodus, yn 2007, cyhoeddodd Cerys Matthews ei bod hi a'i gŵr yn ysgaru, a symudodd hi a'i dau o blant yn ôl i Gymru.
Mae wedi canu deuawd gyda'r canwr enwog o pgledd Cymru, Aled Jones, ar ei albwm newydd, ac yn Nhachwedd 2007, daeth yn bedwerydd yn y gyfres deledu realiti I'm A Celebrity ... Get Me Out Of Here.