Mae dros 300 o dimau pêl-droed yng ngogledd orllewin Cymru, o'r lled-broffesiynol fel tîm Dinas Bangor i dimau iau a thimau tafarn y cynghreiriau Sul. Holwch yn eich ardal chi i ddod o hyd i'ch tîm agosaf. Cymdeithas Bêl-droed Cymru sydd â chyfrifoldeb dros Uwchgynghrair Cymru, y Cymru Alliancea'r Welsh Alliance. Mae newyddion am gemau Uwchgynghrair Cymru yn ymddangos ar wefan Chwaraeon 91Èȱ¬ Cymru'r Byd. Am esboniad llawn o byramid pêl-droed yr ardal, cliciwch yma. Yn is i lawr, mae cynghreiriau lleol yn gysylltiedig â gwahanol gymdeithasau pêl-droed - Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru sy'n gweithredu yng ngogledd Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru yn ne Gwynedd. Mae Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru yn cynnwys cynghreiriau Gwynedd, Clwyd, Ardal Caernarfon, Ynys Môn a Chynghrair Sul Ynys Môn a Gwynedd. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am y timau iau sydd â chwaraewyr rhwng 12 ac 17 oed, ac yn cynnwys ardaloedd LlÅ·n/Eifionydd, Gwyrfai, Ynys Môn ac Aberconwy. Yn ogystal, maen nhw'n trefnu cystadlaethau cwpan ar gyfer timau iau, timau mwy a thimau pentref ac mae cwpan i ferched ar y gweill hefyd. Mae timau fel Dolgellau, Corris, Aberdyfi, Tywyn/Bryncrug yn dod dan oruchwyliaeth Cymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru ac yn chwarae yng nghynghrair Aberystwyth tra mae timau iau de Gwynedd yn chwarae yng Nghynghrair Mini/Minor Tywyn a'r Cylch. Yn ôl Trefor Lloyd Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru, mae gwir angen mwy o ddyfarnwyr arnyn nhw:
"Rydyn ni'n dibynnu'n helaeth ar wirfoddolwyr - ac mae wir angen mwy arnon ni ar hyn o bryd. Mi gawson ni sesiwn hyfforddi lwyddiannus yn Llangefni yn ddiweddar, ond mae angen mwy o help arnon ni ar gyfer gemau ym Mhen LlÅ·n, y Blaenau, Llanrwst a Llandudno. Cysylltwch os oes ganddoch chi ddiddordeb." ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å merched±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å ieuenctid
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |