Un o bêl-droedwyr enwocaf Cymru, Lerpwl a Wrecsam.
Roedd Joey yn aelod o dîm buddugol Lerpwl mewn dwy gêm gwpan Ewropeaidd, dwy bencampwriaeth a gêm derfynol Cwpan yr FA heb sôn am fod yn aelod o'r tîm ym muddugoliaeth enwog Cymru dros Loegr yn 1984.
Magwyd Joey Jones yn Llandudno ac yn ifanc iawn rhoddodd ei fryd ar chwarae pêl droed. Chwaraeodd gyntaf i dimau lleol fel Llandudno Estates a Llandudno Swifts - tîm digon gwael yn ôl Joey ei hun er bod Neville Southall yn amddiffynnwr iddyn nhw. Fe chwaraeodd hefyd i dîm Ysgol John Bright a enillodd y gwpan ym 1968.
Dan arweiniad y sgowt lleol, Evan Williams, Craig-y-Don, aeth ar brawf i Gaer a Wrecsam. Fe gafodd o a Mickey Thomas gynnig gwaith gan Wrecsam yn trin y cae yn 1971. Roedden nhw hefyd yn cael cyfle i ymarfer efo'r tîm ac yn cael tâl o £8 yr wythnos ond roedd disgwyl iddyn nhw lanhau sgidiau, twtio'r terasau a thrin y cae hefyd. Allan o'r arian hwnnw roedd £5 yn mynd ar lety bob wythnos!
Fe chwaraeodd Joey i'r tîm cyntaf yn 17 oed mewn gêm gwpan yn erbyn y gelyn lleol, Dinas Caer. Roedd yn aelod o dîm enwog Wrecsam yn 1974 pan guron nhw Crystal Palace, Middlesborough a Southampton yng Nghwpan yr FA.
Yn 1975 fe gafodd Joey gynnig symud i Lerpwl - cynnig anodd ei wrthod am £110,000. Yno hefyd bu'n llwyddiannus iawn gan chwarae efo mawrion fel Kevin Keegan a Tommy Smith ac fe enillodd Lerpwl ddwy gwpan Ewropeaidd yn 1977 ac 1978, dwy gynghrair a chyrraedd gêm derfynol Cwpan yr FA.
Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl hefyd y dechreuodd Joey chwarae i Gymru ac o blith ei 72 ymddangosiad dros ei wlad, buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr o 1-0 yn 1984 oedd un o uchafbwyntiau ei yrfa.
Dychwelodd i Wrecsam yn 1978 am £210,000 cyn symud wedyn i Chelsea at ei hen ffrind, Mickey Thomas, a helpu'r clwb i ennill yr Ail Adran. Yn dilyn cyfnod byr yn Huddersfield fel chwaraewr ac yna fel hyfforddwr, ymddeolodd yn 1992.
Sgoriodd 29 gôl yn ystod ei yrfa broffesiynol, ond mae'n cyfaddef iddo adael ambell gôl arall ddamweiniol i mewn i'r rhwyd dros y gelyn hefyd! Cafodd driniaeth ar ei galon yn 2002 ac mae bellach yn llysgennad dros glwb Wrecsam.