91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Taith yn ol mewn amser Breuddwyd roc a rôl
Ionawr 2008
Am dridiau yn ystod wythnos diwethaf y tymor, trawsnewidiwyd neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen yn Ysgol Rydell rywle yn yr Unol Daleithiau ar ddiwedd pumdegau'r ugeinfed ganrif.

Roedd hi'n hanner canrif a mwy ers y gwelwyd cymaint o siacedi lledr, brylcreem, gwalltiau "beehive" a sodlau uchel yn y Dyffryn, ond o mor braf oedd teithio'n ôl mewn amser a mwynhau orig fach yn asbri'r cyfnod a anfarwolwyd mewn un gair - "Grease"!

Penllanw tymor y Nadolig yn Ysgol Dyffryn Ogwen oedd llwyfannu cynhyrchiad o'r sioe gerdd 'Grease' yn ystod wythnos olaf y tymor. Mrs Linda Brown o'r Gerlan oedd yn cyfarwyddo ac o dan ei harweiniad hi bu criw o ddisgyblion talentog yn ymarfer yn galed gyda'r nosau ac ar benwythnosau am wythnosau i sicrhau fod y cynhyrchiad yn un i ymfalchìo ynddo.

Yn ogystal a'r disgyblion oedd yn actio a chanu'r prif rannau yn y sioe, roedd bron i gant o rai eraill - staff a disgyblion yr ysgol yn gysylltiedig a'r sioe mewn rhyw fodd - yn y corws, yn helpu gyda pharatoi a pheintio'r set, yn gofalu am y gwisgoedd, yn gweithio ar y sain neu'r goleuo neu yng nghefn y llwyfan neu'n rhan o'r band.

Mae'n rhaid enwi Beca Roberts o Dregarth yn arbennig ymhlith y criw yma am ei gwaith pwysig iawn yn trefnu pawb tu ôl i'r llenni.

Bois y Band
Mr Hefin Evans, Pennaeth Cerdd Ysgol Dyffryn Ogwen, oedd yn gyfrifol am ochr gerddorol y gwaith, yn hyfforddi'r cantorion ac yn arwain y band. Roedd nifer o staff a disgyblion yn y band: Mr Alun Llwyd, y Prifathro, Ms Ann George, Pennaeth Gwyddoniaeth, Mr Dewi Gwyn, Cemeg, Jessica Callahan ac Alex Jones, blwyddyn 11.

Ms Eleri Mitchelmore oedd yn gyfrifol am y coreograffi a hyfforddi'r dawnswyr gyda Mr Dafydd Roberts a Mrs Rhiannon Thomas hefyd yn helpu efo'r cyfarwyddo a'r cynhyrchu. Mrs Julie Jones a Mr Richard Smith oedd y ddau athro a fu'n gyfrifol am y set wych.

Mrs Ellen Jones oedd yn bennaf gyfrifol am y gwisgoedd gyda Mrs Glenda Roberts a Mrs Margaret Williams-Roberts yn ei chynorthwyo. Mrs Manon Pritchard, mam Emily Pritchard, blwyddyn 8, oedd yn gyfrifol am y coluro a'r gwalltiau a Dr Francine Thomas, Ffiseg, oedd yn gofalu am y goleuo.

Y Neuadd Dan ei Sang
Cafwyd y perfformiad cyntaf ar brynhawn Llun, Rhagfyr 17eg, ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd y dalgylch ac yna cafwyd perfformiadau i'r cyhoedd ar nos Fawrth, Rhagfyr 18fed, a nos Fercher, 19eg.

Roedd y neuadd dan ei sang ar gyfer y ddwy noson a chafwyd ymateb gwych i'r sioe gan bawb a'i gwelodd - gymaint felly nes i'r ysgol dderbyn nifer helaeth o negeseuon yn canmol yr actio, y canu a'r dawnsio yn fawr iawn.

Ac wrth gwrs roedd y rhan fwyaf o'r diolch am hynny i'r cast o brif actorion y sioe a roddodd gymaint o amser ac ymroddiad i'r cynhyrchiad dan gyfarwyddyd Linda Brown.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý