Roedd yna eithriadau i'r rheol wrth gwrs. Roedd yn well gan nifer o chwarelwyr wario'u harian yn y dafarn yn hytrach nag ar gapeli, a doedd pob perchennog chwarel ddim yn rhydd o ysgogiadau dyngarol. Ond roedd y llinellau bai rhwng y ddwy ochr mor ddwfn ac unrhyw raniad mewn strata daearegol, a doedden nhw ddim ond angen cynhyrfiad bychan i'w chwalu ar agor. Dyna beth ddigwyddodd ym Mis Ebrill 1900, pan wrthododd rheolwr chwarel y Penrhyn yr hawl i'r gweithwyr gasglu taliadau undeb ar diriogaeth y chwarel fel ymgais i roi terfyn ar weithgaredd undebol. Dechreuodd y weithred hon yr hyn a ddatblygodd i fod yn un o anghydfodau diwydiannol hiraf a chwerwaf yn hanes Prydain - anghydfod sy'n dal i atsain hyd heddiw. Protestiodd rhai dynion am y cyfyngiad ac fe gawson nhw'u diarddel yn syth o'r lleoliad; cerddodd y gweddill allan, bron 3,000 ohonyn nhw. Cafodd tua 400 eu denu n么l i'r gwaith, ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, gan anrheg o sofren ac addewid o godiad cyflog; fe ddaethon nhw i gael eu galw'n "Fradwyr" gan y streicwyr. Byddai teuluoedd a oedd yn deyrngar i'r streic yn rhoi hysbysiadau yn eu ffenestri yn dweud: "Does dim bradwr yn y t欧 hwn". Llusgodd y misoedd yn eu blaen. Cafwyd rhai helyntion, a chafodd y Ddeddf Derfysg - a rybuddiai'r protestwyr i wasgaru gan awdurdodi defnyddio grym yr heddlu neu hyd yn oed grym militaraidd petai raid - ei darllen ar un achlysur. Yr un pryd cynhaliodd yr undeb a pherchennog y chwarel, yr Arglwydd Penrhyn, ymgyrchoedd croes calonnau a meddwl byd eang trwy golofnau'r papurau newydd, a fu'n dilyn yr anghydfod 芒 chryn ddiddordeb. Ond yn y diwedd, nid y calonnau na'r meddyliau a ddatrysodd y mater, ond stumogau gweigion teuluoedd y streicwyr. Aeth y dynion yn 么l i'r gwaith ym Mis Tachwedd 1903, gyda'u hundeb yn dal i fod heb ei gydnabod. Roedden nhw wedi para'n gryf am dair blynedd a saith mis. Enw lle Hebreaidd yw Bethesda, un o nifer a fabwysiadwyd gan bentrefi Cymraeg a oedd 芒'u crefydd anghydffurfiol yn hoffi menthyg awdurdod a mawredd teitlau Beiblaidd ar gyfer cymunedau yn ogystal ag enwau personol. Ystyr 'Bethesda' yw "T欧 Heddwch", ond doedd y gymuned ddim wedi llwyddo i fod yn hynny o bell ffordd yn ystod tair blynedd chwerw'r streic. Canrif gyfan yn ddiweddarach, mae pobl y pentref yn dal i gofio pa deuluoedd oedd yn streicwyr a pha rai oedd yn "Fradwyr". Ymlaen ...
|