Mae'r corff o lenyddiaeth sy'n edrych ar yr angerdd a'r gwrthdaro a achoswyd gan y streic wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac ym mis Rhagfyr 2003 cyhoeddwyd dau lyfr newydd am y streic yn ystod blwyddyn ei 100fed pen-blwydd. Mae nofel Gymraeg ddiweddaraf Eigra Lewis Roberts Rhannu'r T欧 yn adrodd stori'r rhaniadau a achoswyd gan yr anghydfod. Hefyd mae Gwasg Gomer wedi ailargraffu cyfrol glasurol John Sheridan Jones' (newyddiadurwr ar y Daily News ) a ysgrifennodd ym 1903 ac sy'n adrodd hanes y streic, What I Saw in Bethesda. Mae'r llyfrau hyn, ac eraill tebyg iddyn nhw, yn dystiolaeth o'r diddordeb parhaus mae'r streic yn ei fynnu. Yn gynharach yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd grwpiau lleol ym Methesda cyfres o ddigwyddiadau i goff谩u'r streic, sydd wedi gwneud y gymuned yn le pererindod ar gyfer undebwyr llafur, a'i gwneud yn ddelwedd eiconig o hanes diwydiannol a chymdeithasol Cymreig. Roedd yna gyngherddau corau meibion, perfformiadau ysgolion, darlleniadau a darlithoedd hanesyddol. Y cyweirnod oedd yr angen i gofio ond hefyd i faddau. Dyfynnwyd geiriau'r awdur Ernest Roberts, hanesydd y streic, "Yr unig beth y gallwn ei wneud heddiw yw edmygu'r rhai a lwyddodd i ddal tan y diwedd, ond rhaid i ni beidio 芒 chondemnio'r rhai a fethodd wneud hynny." Roedd yna symbolaeth gref o'r awydd i iachau clwyfau hanes wrth i berchnogion presennol chwarel y Penrhyn, cwmni adeiladu McAlpine, dalu am blac llechen i goffau'r streic, a gafodd ei dadorchuddio fel rhan o'r dathliadau coffau. Fe dalodd y cwmni hefyd am yr arysgrif ar y llechen gab y Prifardd Ieuan Wyn, sy'n darllen: "Yn dlawd ac mewn dyledion - aeth ystyr I Fethesda'r galon, A byw yw co'r henfro hon O'r helynt a'r treialon". Geiriau gan Grahame Davies. N么l i'r dechrau
|