![Cai Hughes](/staticarchive/2f56e9601426a5223e59d2138b69a4fcde1c6496.jpg)
Unrhyw gyngor am gampio yn yr 诺yl?
Arfon Jones: Ewch a dillad sb芒r ac yn sicr wellingtons rhag ofn iddi fwrw eto.
Huw Stephens: Campiwch yn y cysgod gan fod o'n amhosib cysgu mewn pabell sydd yn yr haul. Os mae'n fwdlyd, cadwch eich wellies tu allan i'r babell a pheidiwch 芒 chodi'r babell ger y llwybr neu mi fydd pawb yn syrthio dros eich rhaffau.
Meilyr Gwynedd: Roeddem yn campio yn y lle neis tu cefn i'r llwyfan yn 2006 - er ddaru ni ddim sylwi ein bod yn cael gwneud hynny i gychwyn a ddaru ni treulio oriau yn chwilio am rywle i godi'r babell!
Cai Hughes: Ewch a wellies, digon o gwrw a cheisiwch beidio 芒 mynd ar goll yn y maes pebyll, yn enwedig gyda'r nos!
Beth am eich hoff fwyd ar y maes?
Huw Stephens: Sudd ffrwythau a byrgar!
Cai Hughes: Yr unig beth ddwi'n cofio am y bwyd yw'r dyn o'r fan byrgars oedd dal i goginio am dri o'r gloch y bore, er iddo fod 'bach' wedi meddwi!
Arfon Jones: Ellwch chi ddim mynd yn rong gyda thaten bob a b卯ns.
Beth ddylech chi ddod efo chi?
Huw Stephens: Wet wipes, papur toiled, eli haul, d诺r, dim byd drud fel laptop, digon o arian ac amserlen o be' sy' mlaen.
Arfon Jones: Arian, ffon symudol a gw锚n!
Meilyr Gwynedd: Yr agwedd iawn! Os mae'r haul allan, mi gewch chi ddiod ac ymlacio - gr锚t. Mae gwyliau yn y glaw yn boen - dwi wedi bod dros fy ngliniau yn y mwd yn Glastonbury o'r blaen, ond maen nhw dal yn h诺yl.
Cai Hughes: Eleni, dwi am ddod a fy nghwch efo fi a mynd a fo allan i wylio'r cystadlu o'r m么r.
Beth ydych am ei wisgo?
Huw Stephens: Sandals a sbectol haul, dwi'n gobeithio! Efallai siorts hefyd - efallai!
Arfon Jones: Trywsus combat trichwarter, crys-t, hwdi a het beany.
Lynsey Doel: Gwisgwch drywsus byr. Os yw'n heulog, gwych - os yw'n bwrw, gellwch ei stwffio i mewn i'ch wellingtons heb drafferth - nid oes dim gwaeth na throwsus hir gyda gwaelodion wlyb!
Beth na ddylech chi wisgo?
Huw Stephens: Dillad designer neu het wirion.
Arfon Jones: Unrhyw beth gwyn, crys a thei neu fflip-fflops.
Y lle orau i ddianc o'r dathlu?
Huw Stephens: O dan goeden.
Arfon Jones: Traeth Abersoch.
Cai Hughes: Mae rhai ffrindiau i mi jest yn mynd i weld y sgilfyrddio, ac yn campio yn Abersoch i ffwrdd o'r gerddoriaeth. Eleni mi fydd y cystadlu yn cychwyn yn gynnar oherwydd amser y llanw, felly mi fydd yn anodd i chi godi mewn pryd - yn enwedig os ydych wedi bod yn yfed y noson cynt!
Mwy am Wakestock...