![Arfon Jones yn mwynhau Wakestock](/staticarchive/a5c9c1ac85ed5b73f11c394a315e1acf4e72c4aa.jpg)
Beth am y sgilfyrddio?
Cai Hughes: Mae barnwyr y sgilfyrddio yn edrych am yr un efo'r dechneg orau. Gellid cael sg么r uchel am lanio ar ochr arall yr 么l si芒p 'v' a welwch yn y d诺r y tu 么l i'r cwch. Hefyd, mae glanio'n ddall - hynny yw, gyda'r rhaff y tu 么l i chi - yn beth anodd iawn i'w wneud hefyd.
Ydy Pwllheli yn lle da ar gyfer sgilfyrddio?
Matt Crowhurst: Mae o wastad yn balans rhwng dewis y lleoliad gorau ar gyfer y rhai sy'n gwylio a d诺r da i'r sgilfyrddwyr. Mae Pwllheli yn wych gan fod y llwybr ger y m么r mor hir 芒 chwrs y cychod wrth iddynt dynnu'r sgilfyrddwyr i fyny ac i lawr y bae, felly mi gewch olygfa wych o'r cystadlu.
Unrhyw gyngor ar gyfer rhai sydd heb fod i Wakestock o'r blaen?
Huw Stephens: Ewch i weld bandiau nad ydych wedi clywed am i brofi rhywbeth newydd. Y bandiau sy' mlaen yng nghynt yn y diwrnod yw s锚r y dyfodol, felly ewch i'w cefnogi.
Cymerwch sylw i'r rhaglen fel nad ydych yn colli dim.
Cai Hughes: Yn 么l criw o fy ffrindiau, mae'n syniad cerdded i ffwrdd i'r dde, o amgylch y marina ym Mhwllheli, ac eistedd ar y glaswellt i weld y sgilfyrddio. Mae yna llai o wylwyr yna a chewch olygfa wych o'r cystadlu.
Mae yna digon o fysiau yn mynd o brif faes yr 诺yl i'r sgilfyrddio, felly peidiwch 芒 cholli allan ar elfen yma o wakestock - mae'n wych.
Matt Crowhurst: Mae'n werth dod i lawr i'r traeth i fwynhau'r sgilfyrddio. Ond os nad ydych am adael y maes, dewch i weld y sgilfyrddio mewn dau bwll enfawr yna. Bydd y reidwyr yn cael eu tynnu trwy'r d诺r gan fraich fecanyddol enfawr - mae'n wych i wylio!
Beth ydych yn edrych 'mlaen am fwyaf?
Huw Stephens: Mae'r Mystery Jets a Funeral for a Friend yn wych yn fyw. Bydd yn dda gweld Duffy yn chwarae ger Nefyn hefyd.
Cai Hughes: Pan roeddwn yn Florida, clywais fod sawl sgilfyrddiwr enwog am ddod draw i Wakestock eleni, felly mi fydd y cystadlu yn dda iawn.
Matt Crowhurst: Un sgilfyrddiwr i gadw llygad allan am eleni yw Ciryl Cornaro o'r Swistir. Mae o'n dalent enfawr.
Lynsey Doel: Gwneud lot o arian! Mae'r ffaith ei fod yn 诺yl tri diwrnod eleni yn dda iawn i ni gan ei bod yn fach o siwrne i gyrraedd Pen Ll欧n. Mae gen i hefyd teimlad da am y tywydd eleni...
Ydy o'n addas ar gyfer plant?
Lynsey Doel: Nid yw'r maes yn addas, na.
Cai Hughes: Mae gwylio'r sgilfyrddio yn h诺yl i bawb. Os yw'r plant yn hoffi'r sgilfyrddio, mae croeso iddynt gael blas arno tra'n eithaf ifanc. Gan fod plant mor ysgafn, mae'n bosib iddynt brofi sgilfyrddio heb fynd yn gyflym o gwbl. Ddaru lawer o'r rhai proffesiynol cychwyn yn ifanc, fel Shane Bonifay, a gychwynnodd pan roedd yn bump!
Anfonwch eich lluniau chi o Wakestock i ni.