Beth yw uchafbwyntiau Wakestocks y gorffennol?
Huw Stephens, DJ Radio 1: Roedd mynd i fy Wakestock gyntaf yn agoriad llygad i mi - nid oeddwn wedi gweld chwaraeon a cherddoriaeth yn yr un 诺yl o'r blaen.
Meilyr Gwynedd o'r Sibrydion: Roedd yn heulog iawn pan ddaru ni chwarae yna am y tro gyntaf yn 2006. Roeddem yn chwarae ar y prif lwyfan wrth i bawb dod yn 么l o'r sgilfyrddio ac roedd yn wych. Ond y peth gorau am Wakestock yw'r olygfa. Mae sefyll ar y llwyfan, yn edrych allan dros Pen Ll欧n ar ddiwrnod o haf yn ffantastig.
Cai Hughes o H2O Wakeboard Wales, Porthaethwy: Gweld Nick Davies yn sgilfyrddio - mae o'n obaith da o Brydain am y dyfodol. Ddaru o allu gwneud troad 1080 yn 2007 - un nad yw llawer o'r rhai proffesiynol yn gallu ei wneud.
Abersoch yw canolbwynt y byd sgilfyrddio ym Mhrydain felly mae'n wych gweld y pros i gyd yma.
Matt Crowbridge, sgilfyrddiwr proffesiynol ac MC y cystadlu: Mi wnes i ddod yn ail yn y gystadleuaeth sgilfyrddio yn 2003, 'roedd yn wych. Dwi dal i gystadlu, a dwi'n sylwebu hefyd felly dwi'n brysur iawn!
Fel yr MC, dwi hefyd yn cael yr anrhydedd o wobrwyo'r cystadleuwyr ar brif lwyfan yr 诺yl cyn i'r prif fand ddod ymlaen. Mae hyn yn gyfle gwych i'r sgilfyrddwyr cael clod gan y dorf, ac i'r ddwy elfen o'r 诺yl - chwaraeon a cherddoriaeth - ddod at ei gilydd.
Lynsey Doel o stondin pizza: Gweld y bandiau, mwy na dim. Rydym mewn lleoliad gwych, felly hyd yn oed os ydym yn gweithio, mae dal yn bosib mwynhau be sy'n mynd ymlaen ar y llwyfan.
Rydym yn coginio'r pizza mewn trelar, felly mae'n ddigon hawdd - byddem yn gyrru i'r maes, gwneud i'r trelar edrych yn ddel ac agor! Dwi'n hoff iawn o Wakestock gan ein bod efo digon o amser i baratoi ac ymlacio; cael barbiciw, chwarae ffrisbi a mwynhau'r olygfa cyn i bawb cyrraedd.
Arfon Jones o Drefor, un sy'n mynd i'r 诺yl am h诺yl: Roedd Feeder yn 2007 yn awsome.
Unrhyw bethau wedi mynd o'i le yn ystod yr 诺yl?
Meilyr Gwynedd: Roeddem newydd orffen trip i'r Iwerddon diwrnod yr 诺yl, ac roedd yn rhaid i ni dal y cwch am saith o'r gloch y bore. Ond ddaru neb deffro tan 6.40! Roedd o'n wyrth ein bod wedi cyrraedd Wakestock mewn amser i berfformio!
Matt Crowbridge: Y lleiaf dwi'n s么n am 2007 (blwyddyn y mwd), y gwella bydd hi! Ond dwi wedi dod yn agos i frifo fy hun wrth sgilfyrddio! Maen nhw'n adeiladu rhwystrau enfawr ar gyfer y sgilfyrddio yn y m么r ger Pwllheli ac mae cryn dipyn o'r reidwyr wedi torri eu byrddau wrth crasho mewn iddynt! Ond mae o 'gyd yn rhan o'r gystadlu - mae'r dorf yn hoffi bach o berygl!
Gan fod Bae Pwllheli efo llanw, maen nhw'n adeiladu'r rhwystrau yma pan fo'r m么r allan felly mae o wastad yn well i gystadlu hanner ffordd trwy'r gystadleuaeth. Mae'r rhai sy'n mynd yn gyntaf neu'n olaf gorfod wynebu'r rhwystrau ar eu uchaf yn y d诺r.
Lynsey Doel: Blwyddyn ddiwethaf, roedd y tywydd yn ein herbyn 'roedd yn bechod gan mai dyma un o'r gwyliau prysuraf i ni.
Arfon Jones: Mi wnes i golli fy waled a fy ffrind yn y dorf unwaith, felly roedd yn rhaid i mi gerdded o Bwllheli adref i Drefor - ffordd dda o sobri fyny!
Mwy am Wakestock...