Mae Mared Tomos wedi ennill cadair o'r blaen a hynny pan yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Pantycelyn, Llanymddyfri rhyw dair blynedd yn 么l.
Daeth yn ail yn Sir G芒r y llynedd ond dyma'r tro cyntaf iddi gystadlu yn genedlaethol.
Mared Tomos yn sgwrsio gyda Geraint Lloyd ar Radio Cymru
"Stori fer 'dwi 'di ysgrifennu ar y testun anrheg," eglura Mared.
"Mae'n s么n am gwpwl sy'n prynu anrheg i'w merch sef ceffyl ar gyfer y Nadolig.
"Ond mae hi'n cwympo oddi ar y ceffyl ac yn marw, a chi'n gweld tristwch y rhieni.
"Ond ar y diwedd mae rhyw dro bach lle mae golygfa mewn ysbyty arall lle mae merch arall yn disgwyl calon newydd ac felly dyna'r anrheg."
Mwnci oedd y llysenw a ddefnyddiodd Mared, enw y mae hi wedi ei ddefnyddio o'r blaen.
"Mae'n enw sydd wedi dod 芒 lwc i fi o'r blaen yn y Steddfod Ysgol. Ac roeddwn i yn meddwl y daw 芒 lwc i mi eto."
Cafodd lwyddiant yn Eisteddfod y llynedd fel rhan o'r gr诺p Amheus, enillodd gystadleuaeth y G芒n Bop.
Mae Mared yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn y Brifysgol yn Llanbed lle mae'n astudio Cymraeg ac yn gobeithio mynd ymlaen i ddysgu ar 么l hynny.
Bu'n aelod gweithgar o Glwb Llangadog ers pum mlynedd ac eleni hi yw Swyddog y Wasg.
"'Dwi wedi cynrychioli'r clwb sawl gwaith ar lefel sirol yn Sir G芒r a chenedlaethol.
"Ni'n glwb mawr iawn ac mae lot o flynyddoedd ar 么l 'da fi gyda'r clwb i ddod.
"Roedd hi mor braf gweld fy holl ffrindiau yn eistedd yn y gynulleidfa heddiw.
"'Na'r peth pwysig o fewn clwb y ffermwyr ifanc - y cymdeithasu.
"Byddwn yn parhau i gystadlu - dwi'n credu bod hi'n bwysig i'r iaith Gymraeg bod pobl yn cystadlu er mwyn cadw barddoniaeth a llenyddiaeth yn fyw yng Nghymru.
"Fi 'di bod mor nerfus heddi, credwch chi ddim! Ond yr amser wnes i godi fe wnaeth popeth setlo ac mi wnes i ddechrau mwynhau.
"Roedd wir yn wefr oherwydd roedd paw bar bigau'r drain i wybod pwy oedd yn mynd i godi
"Roedd hi'n brofiad anhygoel iawn."
Roedd Cadair yr Eisteddfod eleni yn rhoddedig gan Gangen Meirionnydd, Undeb Amaethwyr Cymru.