91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pontrhydfendigaid
Nia Efans Cadair CFfI 2006
Enillydd cystadleuaeth cadair Eisteddfod Genedlaethol Ffermwyr Ifanc Cymru 2006, oedd Nia Efans o glwb Penmynydd, Ynys M么n, a hynny am yr eildro.
Enillodd y gadair, a oedd wedi ei gwneud gan y crefftwr lleol Gwyndaf Davies, am stori fer dan y ffug-enw Matilda.

Roedd y gadair yn cael ei rhoi naill ai am gerdd ar y testun Llanw a Thrai neu stori fer ar y testun Dan y Don a daeth un bardd a dau lenor i'r brig.

Yn ail roedd Catrin Haf Jones o glwb Mydroilyn, Ceredigion, a ysgrifennodd stori fer dan y ffug enw Llipryn Llwyd, ac yn drydydd roedd Llinos Dafydd o Lanwennog, Ceredigion a ysgrifennodd gerdd dan y ffug enw Gwyn Dy Fyd.

Cafodd Nia ganmoliaeth uchel gan y beirniad, y prifardd Ceri Wyn Jones, am 'stori fer ragorol' gyda si芒p a momentwm i'r naratif. Drwy ysgrifennu o ddau bersbectif gwahanol, yn y person cyntaf a'r trydydd person, dywedodd ei bod wedi llwyddo i adeiladu tensiwn yn y stori sy'n adrodd hanes merch sy'n boddi ei brawd bach yn y m么r ar ddamwain wrth geiso ei ddysgu i nofio.

Dywedodd Ceri Wyn Jones ei fod yn parchu dawn dweud Llipryn Llwyd a Gwyn Dy Fyd ond fod cyfanwaith gorffenedig y gwaith buddugol yn cipio'r gadair.

Enillodd Nia gadair Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn 2004 yn Abergwaun hefyd.

Mae'n aelod o glwb Penmynydd ers 12 mlynedd ac yn gweithio fel ymchwilydd i'r 91热爆 ym Mangor.

Mae hi hefyd yn arwain c么r clwb Penmynydd, a rhwng ennill y gadair a pharatoi i arwain, roedd hefyd yn brysur iawn yn ystod yr eisteddfod ym Mhontrhydfendigaid yn cyfeilio ac yn ceisio rhoi trefn ar aelodau'r clwb!

  • Holl ganlyniadau'r gwaith cartref

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Trefi
    Radio Cymru
    Bws 91热爆 Cymru
    Lluniau


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy