Hunaniaeth a goddefgarwch
'Sut mae diogelu hunaniaeth heb fod yn ddinistriol'
Er bod gwladgarwch a chenedlaetholdeb yn rhoddion gan Dduw rhybuddiwyd bod iddynt eu peryglon hefyd.
A galwad i ochel rhag y peryglon dinistriol hynny a pheryglon gwahaniaethau crefyddol oedd un Archesgob Cymru yn ystod gwasanaeth crefyddol ym Mhafiliwn yr Eisteddfod fore Sul.
"Yr her i ni fel cenedl yw cadw ein hunaniaeth, a llawenhau ynddi, heb fynd yn gul ein gorwelion, yn gaeedig ein meddwl, yn ddrwgdybus o estroniaid," meddai'r Tra Parchedig Barry Morgan.
Dywedodd fod "cost ddynol" culni cenedlaethol ac anoddefgarwch crefyddol i'w gweld ar hyd a lled y byd.
"Fe all y ddadl yngl欧n 芒 chenedl a chenedlaetholdeb a chenedligrwydd fod yn un boeth," meddai.
"Yr ydym wedi gweld - ac yn dal i weld - cost ddynol yr ymdrech am hunaniaeth genedlaethol mewn gwahanol rannau o'r byd - yn Iwgoslafia, Israel, Irac, Palesteina a rhannau o Affrica," meddai.
Er yn canmol bendithion gwahaniaethau rhwng pobl galwodd am sicrhau nad yw'r gwahaniaethau hynny yn troi'n rhwystrau.
"Fedrwn ni ddim byw heb wahaniaethau. Ond fedrwn ni ddim byw ychwaith os yw'r gwahaniaethau hyny'n mynd mor haearnaidd nes ein bod yn ymateb i bobl o'r tu allan gyda chasineb a ffyrnigrwydd."
Yr her yn 么l yr Archesgob yw gwarchod hunaniaeth heb droi hynny yn rhywbeth dinistriol.
Ychwanegodd bod gan yr Efengyl Gristnogol ei gwersi arbennig am genedligrwydd a pherthyn.
Ond rhybuddiodd nad yw daliadau crefyddol heb eu peryglon hefyd.
"Rhaid inni sylweddoli fod y rhoddion a roddwyd inni, yr arbenigrwydd sy'n perthyn inni, nid er ein mwyn ni'n hunain yn unig ond er cyfoethogi dynolryw.
"Rhgaid inni beidio byth ag anghofio ein bod yn perthyn i un ddynoliaeth gyffredin ac i un teulu dynol anwahanadwy," meddai.
"Yr oedd cariad Iesu yn cynnwys pawb," meddai.