Mynediad am Ddim
Roedd yn rhaid mentro i Faes C rywbryd yn ystod yr wythnos - a pham ddim y nos Sadwrn cyntaf?
Yno yr oedd band o'r Saithdegau yn perfformio, Mynediad am Ddim.
Nhw oedd yn agor wythnos o weithgareddau ar Maes C - ac yn 么l Emyr Wyn, un o brif leiswyr y band, mae'r t芒l yn talu am ei le ar y Maes Carafannau!
Roedd y lle yn orlawn a swyddogion yn gorfod darparu byrddau a chadeiriau ychwanegol i'r gynulleidfa.
Cafwyd perfformiadau egniol gan Emyr, Robin, Rhys, Geraint, a Geraint Cynan oedd yn eu cynorthwyo gan fod dau o'r aelodau dramor, un yn Seland Newydd ac un yn Sbaen.
Ymhlith y caneuon cafwyd y ffefrynnau, Cofio Dy Wyneb, Can Wini, Ynys Llanddwyn a Hi oedd fy Ffrind.
Yn ystod y noson adroddodd Dewi Pws dweud ambell i stori ysgafn a chanu rhai o ganeuon Tebot Piws - fydd yn chwarae yn y Clwb Trydan ym Mhontcanna nos Fercher a nos Iau.
Cafwyd rhai o ganeuon newydd y Tebot, M.O.M FF.G a Twll yn Un yn ogystal 芒'r hen ganeuon fel Lleucu Llwyd a Blaenau Ffestiniog.
Erbyn ail hanner set Mynediad am Ddim roedd nifer wedi codi ac wedi mynd i ddawnsio.
Cafwyd Ceidwad y Goleudy, Beti Wyn, Casa Eroti, Moliannwn, Fflat Huw Puw a Fi cyn i bawb ganu Hen Wlad fy Nhadau.
Yr oedd hi'n dipyn o noson yn llawn hwyl a bywiogrwydd ac yn arwydd o'r amrywiaeth a fydd ym Maes C weddill yr wythnos.
Elin Angharad