Adeilad myfyrwyr
Yr adeiladau cyntaf gan benseiri ifanc
Myfyrwyr sydd wedi creu'r ddau adeilad cyntaf y bydd ymwelwyr 芒'r Eisteddfod yn eu gweld.
Yn gynharach eleni bu'r myfyrwyr o'r Uned Ymchwil i Ddylunio yn Ysgol Benseiriniaeth Cymru yn dylunio dros dau adeilad sydd I'w gweld wrth Ganolfan Groeso'r Eisteddfod.
Yn un o'r adeiladau bydd adnoddau cyfieithu lle gall ymwelwyr gael offer sy'n yn cyfieithu'r hyn sy'n digwydd yn y pafiliwn.
Yn yr adeilad arall bydd tywyswyr amlieithog ar gael I roi gwybodaeth a chymorth i ymwelwyr.
"Daeth yr Ysgol Bensieriniaeth atom yn Chwefror i holi os oedd modd i'w myfyrwyr blwyddyn gyntaf ac ail weithio ar brosiect ar gyfer yr Eisteddfod ac roeddem wrth ein bodd," meddai Alan Gwynant, Cyfarwyddwr Technegol yr Eisteddfod.
Yn y gorffennnol yr Uned Ymchwil ddyluniodd safle Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 2004.