91热爆

Huw Thomas, llywydd llys yr Eisteddfod

Teimladau cymysg llywydd

Llywydd y llys yn "drist" wrth edrych ymlaen.

Pa mor llwyddiannus bynnag fydd Prifwyl Caerdydd un a fydd yn "drist iawn" ddiwedd yr wythnos yw Huw Thomas.

Hon yw ei eisteddfod olaf ef fel llywydd llys yr Eisteddfod.

Ac wrth i'w dymor ddod i ben dywedodd y bydd cysylltiad deugain mlynedd 芒'r Eisteddfod yn dod i ben hefyd.

Yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg fore Sadwrn dywedodd:

"Rwy'n edrych ymlaen at Eisteddfod hapus a chartrefol a dwi'n meddwl y bydd hi'n llwyddiant ysgubol.

"Fe fydda i yn amlwg yn drist ar ddiwedd yr wythnos achos bod cysylltiad o dros 40 o flynyddoedd yn dirwyn i ben ond fe alla i eich sicrhau chi y bydda i yn dal yn deyrngar ac yn ffyddlon i'r Eisteddfod achos rydw i'n dal i gredu mai dyma un o sefydliadau pwysicaf Cymru yn enwedig o gofio yr iaith a'u lle nhw yn hanes diwylliant y genedl."

Dywedodd ei bod, fodd bynnag, yn gyd-ddigwyddiad hapus mai yng Nghaerdydd y mae ei dymor yn dod i ben gan i Gaerdydd a'r ardal chwarae rhan mor bwysig yn ei yrfa broffesiynol mewn llywodraeth leol gan iddo fod yn brif weithredwr ym Morgannwg.

Tynnodd sylw hefyd at ddibyniaeth Caerdydd a'r Cymoedd ar ei gilydd gan ragweld y bydd i'r cymoedd eu rhan yn llwyddiant yr eisteddfod eleni.


91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.