Corau ar i fyny
Canmol y niferoedd
Mae mwy o gorau wedi addo cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni nag ers sawl blwyddyn.
Cystadlaethau eraill hynod boblogaidd yw y ddwy gystadleuaeth unawd o sioe gerdd gyda 90 wedi anfon eu henwau i mewn.
Croesawyd y ffigurau calonogol gan Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod ddiwedd Mehefin.
"Y newydddion da yw fod cyfanswm yr holl gystadlu yn debyg iawn i'r eisteddfodau diweddar a'r ap锚l i'r cystadleuwyr yw iddynt droi fyny!" meddai
"Mae cyfanswm y corau yn yr adran gerdd yn 43 - sef y mwyaf ers sawl blwyddyn, gydag 14 o gorau meibion a phump o gorau pensiynwyr; pum c么r cerdd dant, 20 o fandiau pres.
"Hefyd, mae pedwar grwp yng nghystadleuaeth Lois Blake yn yr adran ddawns a 10 parti llefaru," meddai.