Edrych ymlaen at Lynebwy
Cyhoeddi lleoliad Eisteddfod 2010
Wrth i bethau ddirwyn i ben yng Nghaerdydd dechreuodd yr edrych ymlaen at y nesaf.
Ac at yr un ar 么l honno!
Yn wir yr oedd yna gymaint o edrych ymlaen yng Nghaerdydd at Eisteddfod Glynebwy 2010 ag oedd yn at un Y Bala y flwyddyn nesaf.
Er bod darogan cyn hynny, ddydd Iau y gwnaed y cyhoeddiad am Lynebwy gan ddweud y bydd yn cael ei chynnal ar 185 erw o dir wedi ei adfer sy'n cael ei adnabod fel The Works yn lleol gan gyfeirio at y gwaith dur arferai fod yno.
Gydag addewid y gallai'r Eisteddfod ychwanegu 拢6m at yr economi leol croesawyd y penderfyniad gan wleidyddion yn genedlaethol ac yn lleol gydag arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, Des Hillman, yn ei weld meddai yn gyfle i ddod a'r "Blaenau Gwent newydd" i sylw pobol ar hyd a lled Cymru a newid ar yr un pryd y ddelwedd a fu o flaenau'r Cymoedd.
"Yr ydym yn hyderus y gallwn gynnal Eisteddfod lwyddiannus ac unigryw ym Mhennau'r Cymoedd," meddai.
"Gobeithiwn dynnu at ei gilydd bobl o bob cenhedlaeth. Siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a phob un sy'n ymddiddori yn y diwylliant Cymreig," meddai.
Mae'r symudiad yn un sy'n cael ei gefnogi'n swyddogol gan y Cynulliad ac er mai ddydd Iau y gwnaed y cyhoeddiad yr oedd y penderfyniad wedi ei wneud gymaint 芒 phedwar mis yn 么l.
Pan fydd yr Eisteddfod yn symud ymlaen ddiwedd wythnos gyntaf Awst 2010 dywedwyd y bydd cartrefi, siopau, swyddfeydd, ysgol a chanolfan gelfyddydau yn cael eu codi ar y safle.
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld 芒 Glynebwy oedd yn 1958 pan oedd William Morris yn Archdderwydd, T Llew Jones yn ennill y Gadair, Llewelyn Jones y Goron ac E Cynolwyn Pugh y Fedal Ryddiaith.
Ymhlith yr areithwyr yno yr oedd Aneurin Bevan, hyn cyn dyddiau y Rheol Gymraeg.
Ymhlith y digwyddiadau hanesyddol y gellir eu cofio bydd: