Camp dysgwraig o'r America
Yn yr Unol Daleithiau ers deugain mlynedd
Gwraig o'r Unol Daleithiau a fu'n fuddugol ar y gystadleuaeth llefaru unigol i ddysgwyr yng Nghaerdydd eleni.
Symudodd Mari Davies o Abertawe i'r Unol Daleithiau gyda'i g诺r Hywel o Gasllwchwr 43 blynedd yn 么l.
Yr oedd y ddau wedi graddio yn Abertawe ac yn briod ers wyth wythnos.
Mae Hywel yn arbenigwr cyfrifiadurol a Mari 芒 doethuriaeth mewn llenyddiaeth Saesneg.
Gyda Hywel yn siaradwr Cymraeg rhugl dilynodd Mari gwrs Wlpan yn Llanbedr-pont-Steffan bedair blynedd yn 么l ac ers hynny bu'n ceisio gloywi ei hiaith yn yr America gydag ymweliadau blynyddol 芒 Chymru.
Mae'n cyfaddef ei bod yn ei chael yn anodd yn yr Unol Daleithiau heb glywed y Gymraeg o'i chwmpas. Does yna ddim dosbarthiadau y gall eu mynychu.
"Byddai cael S4C ar Sky yn wych," meddai.
Yr oedd yn un o 18 a ymgeisiodd ar y gystadleuaeth Llefaru Unigol Agored i Ddysgwyr.
"Y gerdd ar gyfer y gystadleuaeth oedd Twf gan Cyril Jones, cerdd gyfareddol gydag amrywiaeth eang o iaith," meddai.
"Fi oedd y gyntaf o'r cystadleuwyr ar y llwyfan a phan alwyd fy enw wedi'r gystadleuaeth doeddwn i ddim yn si诺r os mai'n galw ni'n tri yn 么l i'r llwyfan oedden nhw. A dyma rhywun yn dweud, 'Ti sy wedi ennill.'
"Roedd yn deimlad gwych a doedd yna ddim ysbryd drwg o gwbl rhwng y cystadleuwyr. Roeddem i gyd yn yr un cwch," meddai.