Dadl yr oedfa
Cwestiwn mynediad i'r oedfa heb ei setlo.
Dydi cwestiwn mynediad am ddim i oedfa bore Sul yr Eisteddfod Genedlaethol ddim wedi ei setlo'n derfynol.
Er bod darpariaeth, yn dilyn protest, i addolwyr fynychu'r oedfa am ddim ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd does yna ddim sicrwydd mai dyna fydd y drefn yn eisteddfodau'r dyfodol.
Mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod yn Y Bala ddydd Sadwrn, 5ed o Orffennaf, dywedodd y cyfarwyddwr, Elfed Roberts, y bydd y mater yn cael ei "adolygu" yn dilyn eisteddfod Caerdydd.
O glywed hyn, pwysleisiodd aelod o'r Cyngor, Y Parchedig Meirion Lloyd Davies, ei bod yn bwysig fod yr Eisteddfod yn sefyll yn gadarn wrth unrhyw benderfyniad a wneir nesaf ac nid newid meddwl fel y gwnaed yn achos Caerdydd.
Gydag Eisteddfod Caerdydd tynnodd yr Eisteddfod nyth cacwn yn ei phen trwy ddweud y byddai'n rhaid i fynychwyr yr oedfa dalu am fynediad i'r maes ar y bore Sul. Yn y diwedd cyfaddawdwyd a dewiswyd y mudiad Cytun i fod yn gyfrifol am ddosbarthu tocynnau am ddim i'r oedfa ar yr amod fod y rhai oedd yn eu derbyn yn gadael y Maes yn syth wedi'r gwasanaeth neu dalu am docyn i aros.
Dywedodd Mr Roberts i Cytun dderbyn erbyn dydd Sadwrn, 5ed o Orffennaf, 400 o geisiadau am docynnau am ddim. Y dyddiad olaf i wneud cais oedd dydd Llun 7fed o Orffennaf.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd, Huw Llewelyn Davies, ei fod e'n tristau fod elusen wedi colli'r "swm sylweddol o arian" a fyddai wedi deillio o werthiant tocynnau i'r oedfa.