Bydd nifer o artistiaid adnabyddus a gafodd addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn cymryd rhan mewn cyngerdd wythnos yr Eisteddfod i ddathlu addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.
Mae'r cyngerdd Tri10 - a gynhelir nos Wener Awst 1 am wyth yn y pafiliwn yn dilyn y seremoni agoriadol - yn rhan o ddathliadau pen-blwydd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn 30 ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn ddeg.
Yr artistiaid a fydd yn cymryd rhan yw, Hanner Pei; Mathew a Daniel Glyn; Huw Stephens; Jeremy Huw Williams; Paul Carey Jones; Anthony Stuart Lloyd; Alys Reed; Marged Jones; Branwen Gwyn; Rhodri Llywelyn; Sara Gibson; Eleri Morgan; Dafydd James; Gareth Bonello; Lowri Walton; Rhidian Marc ac Eiri Thomas.
Cymerir rhan hefyd gan g么r o 350 o gyn ddisgyblion, athrawon a rhieni, C么r Unedig Glantaf.
Ac er na all fod yn bresennol bydd yr actor Ioan Gruffudd, a fu'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, yn cyflwyno neges ar fideo.
Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Rwy'n siwr y bydd hi'n noson lwyddiannus, yn enwedig gyda'r ystod o dalent sydd ymhlith y myfyrwyr presennol a'r cyn ddisgyblion enwog."
Pris tocynnau yw 拢7 ac 拢8 i blant a 拢14 ac 拢16 i oedolion.