Jacs Codi Arian
Dysgu gyrru i godi arian
Dau hosbis ar eu hennill
Atyniad poblogaidd ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon yw gwersi gyrru Jac Codi Baw.
Mae'r peiriannau - bychain - y tu allan i'r Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg ac mae'r bunt sy'n rhaid ei thalu i fynd arnyn nhw yn mynd tuag at hosbisus T欧 Gobaith a Th欧 Hafan.
Ac mewn amser byr iawn fore Llun yr oedd 拢100 yn y g么d.
Y gamp yw codi gyda rhaw y Jac Codi Baw bedwar blocyn o bren a'u gosod gyda'i gilydd yn yr un lle.
Mae cynorthwywyr ar gael i ddangos sut mae gweithio'r ddau beiriant a gafwyd ar fenthyg gan gwmni Parker, Llanelli.