Pigion Pontcanna - Mawrth
Dyddiadur boreol o'r Maes
Tywydd anwadl - ffigurau cyson
Heddiw ydi'r yfory hwnnw yr oedden nhw'n s么n amdano ddoe fel yr un a fyddai'n llawer iawn gwaeth na heddiw o ran tywydd!
Ac yn blygeiniol mae hi yn glawio'n drwm - ond dydi hynny ddim byd newydd yr wythnos hon a'r gobaith yw y bydd hi'n codi fel mae wedi gwneud y diwrnodau blaenorol.
Ond er bod y tywydd a'r awyr uwchben Ms Pinc yn anwadal iawn mae'r niferoedd sy'n ymweld 芒'r Eisteddfod yn gwbl gyson ar i fyny.
Am y trydydd diwrnod yr oedd ffigurau ddoe o 20,423 yn rhagori ar rai'r Fflint y llynedd (18,608) ac Abertawe 2006 (20,123) gan brofi y gall ambell i Steddfod fod yn drech na'r cawodydd trymaf.
Peryg mai heddiw fydd y prawf go iawn cyntaf.
Cantorion coll
A maes yr Eisteddfod o fewn ei etholaeth fel aelod o'r Cynulliad mae'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, yn ymwelydd cyson.
Bu yma'n gweld y maes yn cael ei baratoi, yna, ymweliad teuluol gyda'i wyrion ddydd Sul ac ymweliad swyddogol i agor y babell wyddoniaeth a thechnoleg ddoe.
A bu clywed yn ystod yr ymweliad hwnnw i ddwy o unawdwyr cyngerdd nos Lun gael eu taro'n s芒l yn fodd i atgoffa Mr Morgan o ddigwyddiad yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru i ddathlu agor Pont Hafren.
A'r noson ar fin dechrau cyhoeddwyd o'r llwyfan, er mawr siom i bawb, fod y prif unawdydd yn s芒l.
"Ond gyda phawb yn ochneidio fe aeth ymlaen i ddweud iddyn nhw fod yn ddigon ffodus i gael rhyw ganwr arall i lenwi'r bwlch," meddai Mr Morgan.
"Canwr o'r enw Geraint Evans!" Yr un Geraint Evans, wrth gwrs, achubodd seremoni'r Cadeirio yn Eisteddfod Caerdydd 1978 gyda pherfformiad ysbrydoledig pan nad oedd neb yn deilwng o'r gadair.
Mae yna groesi bysedd na chyfyd yr un angen eleni, wrth gwrs.
Rheolau te, ynte
Un dan gwmwl oedd cyfarfyddiad cyntaf yr Orsedd yn yr Eisteddfod hon ddydd Llun - wedi ei gynnal yn y Babell L锚n oherwydd ansicrwydd am y tywydd.
Ond rhad ar yr aelodau hynny o'r Orsedd yn eu dillad trymion yn sychedu am lymaid i wlychu eu llwnc cyn cychwyn.
Mae'n ymddangos bod merched y te ger yr ystafelloedd gwisgo yn gwrthod paned iddyn nhw - rhag iddyn nhw faeddu eu gwisgoedd gorseddol!
Tybed oedd gan hynny rywbeth i'w wneud 芒'r Archesgob yn colli te dros ei glogyn piws wrth gael ei holi ar gyfer y radio cyn yr oedfa fore Sul?
Byd diflas
Hyd yn oed mewn Steddfod mae'n rhaid bod yna rai gorchwylion diflasach na'i gilydd.
Ond byddai'n anodd iawn meddwl am un fwy diflas na stiwardio arddangosfa sydd y tu allan i'r Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae'r arddangosfa ei hun yn un hynod o ddifyr ac yn un y gallwch syllu arni mewn rhyfeddod.
Ond dim ond am rai munudau ar eich ffordd i rywle arall.
Cylchoedd rheilffordd sydd yna o fewn ei gilydd gyda threnau bychain yn cario modelau o'r Ddaear a rhai o'r planedau er mwyn darlunio eu cylchdro o gwmpas yr haul a'u perthynas 芒'i gilydd.
Rownd a rownd a rownd a rownd byth ac yn dragywydd.
Ac mewn cadair gerllaw rhaid wrth stiward i sicrhau nad oes neb yn ymyrryd 芒'r teithiau tragwyddol.
Un ddoe yn eistedd am brynhawn cyfan yn gwylio'r byd yn troi, ac yn troi, ac yn troi ac yn troi . . .
Go brin iddo ef ar 么l mynd adref fod yn gwrando ar hen g芒n Mary Hopkin, Troi, Troi, Troi!
Sion Steddfod