Rhodri Morgan a gwersi L'Orient
'Ni all y Steddfod rewi mewn amser'
Pum gwaith mwy o bobl yng ng诺yl Llydaw
Ar ei ymweliad 芒 maes yr Eisteddfod ddydd Llun awgrymodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan AC, y dylai'r Brifwyl edrych tuag at 诺yl Geltaidd fawr L'Orient am weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae G诺yl Geltaid L'Orient yn Llydaw yn cael ei chynnal yr union yr un wythnos 芒'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn - ond fe'n hatgoffwyd gan Mr Morgan fod yr 诺yl honno yn denu rhyw 650,000 o bobl tra bo'r Eisteddfod yn denu ond 150,000.
Dysgu ambell i dric
"Mi fyddwn i'n dwli pe byddai'r Eisteddfod yn gallu dysgu ambell i dric oddi wrth L'Orient ," meddai mewn cynhadledd i'r wasg ar y Maes.
Ond yr oedd yn cydnabod ei bod yn haws i'r 糯yl yn Llydaw ddenu pobl oherwydd mai g诺yl gerddorol yn unig yw hi heb anawsterau iaith i ddygymod 芒 hwy.
"Os ydych chi jyst yn canolbwyntio ar fiwsig mae'n rhwyddach mewn ffordd gan nad yw iaith yn rhwystr a phawb yn gallu pigo'i mewn a gwrando a does dim ots os yw neb yn deall y geiriau achos fe allwch chi fwynhau y miwsig.
"Mae steil a'r cynnwys yn hollol wahanol ac mae'n rhwyddach mewn ffordd o ran torri trwodd i filoedd ar filoedd o bobl eraill," meddai.
Dywedodd hefyd y gallai fod gan L'orient hithau wersi i'w dysgu oddi wrth Gymru am yr ochr ddiwylliannol fwy amrywiol i bethau - ond prysurodd i ddweud mai mater i'r Eisteddfod yw sut y mae'n ymateb i'w sylwadau.
Ymhelaethodd ar y sylwadau hynny yngl欧n 芒 L'Orient wrth gael ei holi wedyn gan y cyfryngau.
Yn symudol
"Dyw L'Orient ddim yn symudol ac maen nhw'n gallu gwneud buddsoddiad mewn llefydd, meysydd ac yn y blaen sydd yn mynd i fod yno yn barhaol ond mae nhw yn cael 650,000 o bobl a 150,000 ydym ni yn ei gael felly maen nhw'n cael pum gwaith mwy o bobl drwy'r drysau na ni .
"Nawr mae'n lot yn symlach i wneud e gyda miwsig ac mae miwsig Celtaidd yn Llydaw wedi mynd yn rhywbeth rhyngwladol ond beth wyf i'n ffaelu deall yw bod cymaint o bobl yn mynd a ffordd i dorri drwodd i gynulleidfa newydd i weithgareddau'r Eisteddfod .
"Oes yna drics allwn ni ddysgu oddi wrth L'Orient - a dwi'n si诺r y gallai L'Orient ddysgu ambell i beth oddi wrthym ni yngl欧n 芒'r ochr tu fas i fyd miwsig - yr ochr lenyddol, yr ochr sy'n gallu portreadu Llydaw fel gwlad ranbarthol fodern sy'n rhan o Ffrainc."
Tua'r dyfodol
Un peth sy'n sicr mae Mr Morgan am weld yr Eisteddfod yn symud yn ei blaen a datblygu fel ag y gwnaeth dros y 30 mlynedd ddiwethaf.
"Mae'r Eisteddfod wedi gorfod ymdopi yn barod gyda'r newidiadau enfawr sydd wedi cymryd lle yn ein cymdeithas ni dros y 30 mlynedd ddiwethaf achos bod Cymru wedi newid ac os tr茂wch chi neidio ymlaen 30 mlynedd at y flwyddyn 2038 tr茂wch feddwl faint o newidiadau fydd wedi bod yng Nghymru erbyn hynny a faint o heriau fydd yr Eisteddfod wedi gorfod ymdopi 芒 nhw a thr茂wch feddwl pa fath o ddeniadau newydd fydd yr Eisteddfod wedi gorfod eu dyfeisio er mwyn ymdopi 芒 newidiadau newydd yn ein cymdeithas - alla i ddim rhagweld ond allwch chi ddim rhewi yr Eisteddfod mewn amser," meddai.