Iesu! - adolygiad Nic Ros
Drama ddadleuol Aled Jones Williams yn plesio
Mil o ddehongliadau - caboledig nid cableddus
Adolygiad Nic Ros o Iesu! gan Aled Jones Williams. Theatr Sherman, Caerdydd, Awst 5, 2008.
Sant Cabledd
Dyfyniad o ffilm Martin Scorcese, The Last Temptation of Christ yw "Sant Cabledd".
Dyma mae'r Iesu (gwrywaidd) yn ei ddatgan fel un o hanfodion ei ffydd.
Cafodd y ffilm hon, yn ogystal 芒 chyfrol Kazantzakis a'i rhagflaenodd, ei chyhuddo o gabledd a chyda The Life of Brian hefyd yn y newyddion yn Nghymru yn ddiweddar, beth yw oblygiadau hyn oll ar gyfer crefydd yn Nghymru?
Ai arwydd o barch traddodiadol at Y Beibl yw hyn, ynteu cysgod peryglus y fath o ffwndamentaliaeth sy'n cyflwyno agenda eithafol a chul mewn capel, eglwys, teml a mosg?
Dyma broffwydoliaeth i chi: gydag agoriad y ddrama i'r cyhoedd, buan iawn y daw'r siarad am gabledd i ben. Fel The Last Temptation of Christ, dyma waith celfyddydol sy'n deillio o ymdeimlad crefyddol dwfn iawn. Nid yw'n cynnig atebion syml yn fwy nag unrhyw ddrama arall o eiddo Aled Jones Williams, er bod yma lawer i gnoi cil.
O anwybyddu 'gender' yr Iesu, mae yma yn bresennol dalpau o ddysgeidiaeth y Crist traddodiadol.
Mae'r damhegion a sawl golygfa arall heb eu newid fawr ddim. Ceir "deled dy weriniaeth" yn lle "deled dy deyrnas", ond dyma newid naturiol yng Nghymru.
Fel y dywed yr archoffeiriad Caiaffas yn y ddrama - "mae pob celfyddyd yn gelwydd". Yn wir, dehongliad yw pob cyfieithiad o'r Beibl a phob cynrychiolaeth ohono.
Ac mae Peilat yn datgan wrth yr Iesu sydd ar fin gael ei chroeshoelio - "Mil o ddehongliadau wyt ti", gan edrych i'r dyfodol a gweld eglwysi a chrefyddau gwahanol yn methu cytuno ar union natur y Gwaredwr(aig).
Nid dweud mae'r awdur fod yr Iesu YN ferch, ond dychmygu beth fyddai ei sefyllfa, ei chredoau, ei ffydd.
Yr hyn sy'n nodweddu'r Crist yma yw cariad diamod, cariad cyffredinol, cariad Cristnogol cyfarwydd.
Ond mae'n ferch am reswm.
Wrth i'r cymylau madarch niwcliar ymddangos ar y sgrin, ac erchyllterau mwy diweddar fyth fel Abu Ghraib gael eu cyflwyno o'n blaenau, mae'r ensyniad yn glir.
Natur patriarchaidd y gymdeithas sydd ohoni sy'n gyfrifol am ryfel a therfysgaeth o bob math, nid ffydd.
Drama wleidyddol, ffeministaidd hyd yn oed, ydy hon. Ond y dynion, ar ffurf Rhufain, ac a gysylltir yn uniongyrchol 芒 ffigwr Saesneg-Americanaidd llawn gwrthddywediadau George Bushaidd, sy'n ennill y dydd, ac mewn drama di-gyfnod fel hon sy'n asio'r presennol a'r gorffennol pell, gwelwn y weithred a'r canlyniad.
Nid yw croeshoeliad yr Iesu yma yn arbed y byd, a grym dyn a gwn sy'n tra-arglwyddiaethu'r cynfyd a'n byd ni. Dyma'r agosaf at gabledd y daw'r ddrama, a mater o ddehongliad personol pur yw'r uchod.
Meistroleth actores
O blith nifer fawr o resymau dros fynd i weld cynhyrchiad hynod o gaboledig, y brif ffactor yw perfformiad Fflur Medi Owen, sy'n hoelio'n sylw o'r cychwyn.
Heb orwneud na gor-ymdrechu i gyrraedd rhesi cefn prif lwyfan y Sherman, roedd hi'n llyfn, rhwydd a rhywsut yn darbwyllo'n llwyr fel darpar Feseia er gwaethaf ei hieuenctid.
Cystal yw ei meistrolaeth o'i llwyfan nes inni weld ei cholled yn ail hanner y cynhyrchiad, ac fel yn Macbeth ar 么l ymadawiad y Foneddiges, mae'r ail hanner yn rhy hir hebddi.
Pentyrru syniadau
Ceir pentyrru syniadau a symbolau tua diwedd y cynhyrchiad nes ein drysu braidd, yn union fel y gwnaeth Ta-ra Teresa, ond ni ddylid cwyno'n ormodol am hyn. Pa ddramodydd arall yng Nghymru sy'n eich waldio gyda chymaint o syniadau nes eich bod yn ildio fel gwraig odinebus o dan m么r o gerrig?
Yn yr ail hanner hefyd ceir mwy o draethu a llai o ddrama, a gellid cwtogi yma. Mae'n drueni bod golygfa fwyaf theatrig ac effeithiol yr holl noson, sy'n dwyn Rhyfel Irac i'r cof, yn cael ei dilyn gan ddwy olygfa eiriol iawn.
Rhaid dweud hefyd nad oedd baglu Dafydd Dafis fel Peilot ar ei eiriau yn gymorth, a dyma ddilyn yr araith hir honno gan ymson Jiwdas (Gareth ap Watkins) na lwyddodd i gyfleu'r union ystyr bob tro.
Fel arall, roedd perfformiadau'r ddau actor yn gaboledig, ond ni ellir byr-fyfyrio na dyfalu ystyr sgript gan Aled Jones Williams gan ei fod mor goeth, mor gyfoethog ei Gymraeg.
Roedd y castio'n arbennig er gwaetha'r pwynt uchod a'r actorion i gyd ynghyd 芒 chorws Coleg y Drindod yn broffesiynol ac yn llwyr ymwybodol eu bod yn rhannu cyfrifoldeb mawr wrth gyflwyno'r ddrama bwysig hon.
Roedd Ll欧r Evans fel Ceffas yn ddoniol tu hwnt, a gwendid Caiaffas yn cael ei gyflwyno'n gelfydd iawn gan gefn crwm Llion Williams, a Dafydd Emyr yn bwerus fel Herod. Dyma'r agosaf at ensemble a welais i hyd yn hyn, a dyna eironi, yn rhinwedd y ffaith fod peth o'r cast yn fyfyrwyr yn hytrach nag yn actorion proffesiynol.
Celfyddyd weledol
Cyfarwyddwyd y cyfanwaith yn hollol ddi-fai gan Cefin Roberts, gyda'r defnydd o aml gyfryngol yn tanlinellu'r gyfeiriadaeth fodern heb orbwyslais.
Celfyddyd weledol yw theatr, ac felly roedd hi yma, er gwaetha'r ffaith mai'r geiriau sy'n dwyn y sylw. Roedd yma lwyfannu dewr ar adegau, mewn golchfeydd megis araith Peilat gyda'i gefn at y gynulleidfa, a'r olygfa "Irac", heb fynd i fanylu, yn boenus o gyfarwydd ac eto'n ddirdynnol.
Nid mewn anwybodaeth
Ond roedd c芒n ar ddiwedd yr hanner cyntaf oedd yn golygu bod y cyfanwaith yn closio at Jesus Christ Superstar, ac er fy mod yn dyfalu mai'r angen i gyfleu'r llawenydd yn hytrach na dim ond yr ymrafael oedd y nod, roedd yn gam gwag yn fy nhyb i.
Efallai ei fod yn poeni na ddychwelai'r gynulleidfa ar gyfer yr ail hanner ond nid oedd angen poeni, gan fod pawb yn awchu am weld mwy.
Doeddwn i ddim chwaith yn ymwybodol o gerdded allan o gwbl yn ystod y sioe, a braf gallu dweud hynny.
Mil o ddehongliadau.
Dyma un: caboledig, nid cableddus. Anghytunwch os y mynnwch, ond peidiwch 芒 gwneud hynny mewn anwybodaeth. Cerwch i'w gweld hi.