Geid Glantaf
Cyflwyniad i Gaerdydd gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Glantaf, cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y brifddinas yn Awst 2008.
Bywyd Nos, Canol y Dref
Yn ystod degawd olaf y ganrif ddiwethaf, ceisiodd un o arwyr y brifddinas ddisgrifio'r hyn oedd yn mynd ymlaen yng Nghaerdydd wedi iddi nosi. Os nad ydych wedi clywed 'What Goes On In Cardiff After Dark' gan Frank Hennessy, na chwaith wedi bod yng Nghaerdydd o'r blaen, yna bydd y cyngor canlynol o fudd i chi.
Tra'n ochr-gamu dynion croen oren o'r Cymoedd yn cerdded i lawr Heol y Frenhines fel y dyn tin o'r Wizard of Oz, a thra'n goddef y cyflenwad di-dor o fenywod canol oed wedi'u gwisgo fel cowbois ar noson iâr, mae rhywbeth yn eich taro chi'n syth - mae'r dre yn lle afiach!
Os mai'ch amcan am y noson yw aros yn y dre, mae sawl tafarn neu glwb nos yma ar eich cyfer. Am ddiodydd rhad - Y Gatekeeper neu'r Prince of Wales. Am ddiodydd lliwgar llawn ffrwythau - Zero Degrees. Am ddiodydd yng nghwmni Cymry ifanc Caerdydd - Clwb Ifor Bach neu'r trysor newydd Shore Pebbles gyferbyn ag ef. Am ddiodydd na fyddwch yn cofio eu hyfed y bore wedyn - Oceana neu Revolution. Ond efallai y byddwch am geisio osgoi llefydd "Cymreig" fel y Mochyn Du a fydd yn berwi o bobl.
Maes B
Mae Maes B yn debygol o fod yn rhatach o lawer na thafarndai'r dref; mae'r diodydd yn costio llai a chewch weld bandiau Cymreig yn chwarae wedi i chi brynu tocyn mynediad. Felly bydd gennych ddiod rhad yn eich llaw, ond yn fwy pwysig na hynny fydd y cwmni o'ch cwmpas - mi fydd llawer mwy o bobl ifanc ym Maes B ac ni fydd yn rhaid i chi rannu llawr dawnsio gyda chriw o ddynion neu fenywod sy'n ddigon hen i gofio Dewi Pws â gwallt ar ei ben!
Pe byddwn i'n teithio i'r brifddinas ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, buaswn i'n osgoi mynd i'r dre oni bai eich bod yn bwriadu meddwi'n rhacs fel bod popeth o'ch cwmpas yn brydferth. D'oes ond un lle sydd yn hyllach na chanol Caerdydd ar nos Wener neu Sadwrn, yn fy marn i, a'r lle hynny yw Abertawe (mae dyfyniad amlwg a byth-gofiadwy o'r ffilm 'Twin Town' yn atgyfnerthu'r pwynt yma, ond awn ni ddim ar ei ôl). Yn hytrach, ewch i Faes B, i'r bae neu i ardal faestrefol o'r brifddinas. Croeso i Gaerdydd.
Bwyta allan
Mae cymaint o amrywiaeth o fwytai yng Nghaerdydd. Os mai byrbryd neu wledd sydd arnoch ei awydd mae rhywbeth, yn bendant, at eich dant.
Champers, Brasserie a Le Monde ar waelod Heol y Santes Fair. Tri o fwytai sy'n arbenigo mewn cigoedd a physgod. Ewch at y cownter i ddewis eich stec cig eidion neu diwna a phenderfynwch sut yr hoffech iddi gael ei choginio. Digon o ddewis! Y Brasserie yw'r mwyaf poblogaidd ond gall yr awyrgylch deimlo'n rhy brysur. Bwyd da am bris rhesymol.
TGI's ar Heol Casnewydd. Lle bwyta Americanaidd yn llawn saim. Yn ddrud ond yn werth pob ceiniog! Tipyn bach allan o'r dref ei hun.
Os mai cyri sy'n mynd â'ch bryd y lle gorau i chi fynd yw ardal Treganna (Canton). Yma mae enwau bwytai poblogaidd fel yr Eurasian ac Indo Cymru. Does dim prinder llefydd i gael Cyri yma - mae saith bwyty Cyri ar yr un stryd!
Mae'r Hard Rock Cafe yn rhan o'r Brewery 1/4 sydd ar Heol y Santes Fair. Yn anffodus, nid yw'n werth yr arian. Yma, rydych chi'n talu am yr enw ac nid am safon y bwyd. Ond mae bwytai eraill dymunol yn yr ardal yma, fel Nando's sy'n arbenigo mewn cyw iâr piri-piri. Mae'n lle rhad a chewch ail lenwi eich diodydd meddal gymaint o weithiau ag y medrwch am ddim! Yno hefyd mae caban crempog sy'n cynnwys llenwadau sawrus a melys. Pryd o fwyd neu bwdin!
Ar ddiwedd noson allan yng Nghaerdydd does dim posib mynd adref cyn ymweld ag un o ddau le am fwyd i'ch cadw'n iach tan y bore. Y lle mwyaf poblogaidd yw 'Chip Alley' sydd ar waelod Heol y Santes Fair. Yma mae rhes o siopau sglodion traddodiadol sydd heb gael eu hamharu gan y newidiadau a'r ail-ddatblygu pensaernïol yr ochr yma i'r ddinas. Bwyd rhad a blasus - yn enwedig am ddau o'r gloch y bore! Yr ail le yw Charlestons steakhouse, sydd byth yn cau (wel ddim tan 5 y bore o leiaf!). Bwyd hyfryd, yn enwedig y blodfresych mewn cytew (cauliflower in batter i'r Gogs!)
Fel y gwelwch, mewn dinas gosmopolitaidd mae'r arlwy'n adlewyrchu hynny hefyd. O fwyd Tsieineaidd China China i fwyd Mecsicanaidd Las Iguanas, o fwyd Indiaidd y Juboraj i fwyd Ffrengig Le Gallois, o fwyd Eidalaidd Bella Italia i fwyd Archentaidd Patagonia. Ac wrth gwrs, i'r rhai llai mentrus mae yma Pizza Hut, KFC a McDonalds!
Y Bae
Y Senedd ac adeiladau trawiadol eraill Bae Caerdydd
Mae mynd am dro i'r Bae fel camu i fyd gwahanol o brysurdeb canol y ddinas. Er hyn mae bwrlwm amlwg i'w weld yma. Tiger Bay oedd yr enw ar yr ardal hon erstalwm, ardal y dociau, ardal dlawd. Ond nawr mae wedi'i thrawsnewid yn ardal o gyfoeth, o statws a moethusrwydd. Yn y blynyddoedd diweddar daeth yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant.
Gallwch gyrraedd y Bae mewn ffordd gonfensiynol - ar fws, mewn car, ar drên neu mewn tacsi - ond beth am ddull gwahanol? Mae'r tacsi dŵr yn teithio ar hyd yr Afon Taf o ymyl Castell Caerdydd ac yn mynd â chi cyn belled â'r Bae. Os ydych chi wedi mwynhau'r daith honno fe allech chi fynd ar gwch arall am dro allan i'r bae ac i Benarth.
Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae adeilad y Senedd yn arloesol ac yn werth ei weld. Man llachar ei bensaernïaeth yw'r Bae a gwelir hyn gyda chromen Canolfan y Mileniwm (sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru), Tŷ Crughywel, Gwesty Dewi Sant a'r Eglwys Norwyaidd.
Fel yng nghanol y ddinas, ceir yma ddigonedd o ddewis bwytai gan gynnwys Bar Nŵdls Wagamama, Pysgod a Sglodion Harry Ramsden's a bwyty Mimosa. Ac os am hufen iâ, beth am fynd i gaffi Cadwalader's ar y pier? Wedi gorffen bwyta, galwch heibio yn Techniquest i roi her wyddonol a thechnolegol i'ch hunan. A nepell o'r fan honno, ewch i weld y pentref chwaraeon sydd ar ganol cael ei ddatblygu ar hyn o bryd sy'n cynnwys Pwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd.
Anfarwolwyd y Bae yn ddiweddar gan gyfresi teledu fel Caerdydd a Torchwood. Mae nifer o'r adeiladau yn eiconig i ddilynwyr brwd y rhaglenni fel y tŵr dŵr ger y Roald Dahl Plass ond hefyd mae Arddangosfa Dr Who yn y Bae yng Nghanolfan Glanfa'r Iwerydd. Yma, ble y darlledir gorsaf radio Red Dragon FM cewch gyfle i fowlio deg, gwylio ffilmiau yn y sinema amlsgrin, hapchwarae yn y Casino a dawnsio yng nghlwb nos Evolution. Yma hefyd mae amrywiaeth eang o fwytai. Mae hon yn ardal ifanc gyffrous sy'n newid ac esblygu'n gyson.
Siopa
Ffasiwn, technoleg neu chwaraeon? Beth bynnag sydd at eich dant mae yna ddigon o siopau yma yng Nghaerdydd i fodloni unrhyw chwant. Mae canol y ddinas yn gartref i gannoedd o siopau gyda Heol y Frenhines yn ganolbwynt da. Ond nid un stryd yn unig sydd ar gael er mwyn siopa. Yn rhedeg oddi ar y brif stryd mae sawl arcêd gan gynnwys Arcêd Dewi Sant a'r Capitol sydd wedi'u pacio hyd at yr ymylon â siopau. Mae desgiau gwybodaeth wedi eu dotio ar draws y canolfannau siopa hyn os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch.
Yn arddegwr neu'n arddegwraig bydd arian yn llosgi twll yn eich poced. Mae digon o lefydd i wario'ch arian. Os ydych chi, fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr ar budget, gallwch drio Peacocks, Primark neu H&M neu os oes mwy o arian gyda chi i'w wario beth am Topshop, Howells neu River Island? Ac i'r merched (ac i rai bechgyn) mae colur, wrth gwrs, yn arf angenrheidiol ar gyfer brwydrau boreol Maes B felly mae siopau fel Boots a Superdrug ar gael er mwyn stocio'r "pethau angenrheidiol". Ond os mai technoleg yw eich forte chi mae yna ddigonedd o siopiau i'ch temptio.
Rhai o enwogion ein gwlad ni yw'n athletwyr a'n mabolgampwyr ac felly os mai chwaraeon ydych chi'n eu mwynhau mi fydd sawl siop o ddiddordeb i chi. I'r rhai ohonoch sy'n hoff o'r steil Americanaidd Animal a Quicksilver mae yna ddigon o ddewis i chi, ac os mai athletau yw eich camp mae Run and Become a Tony Price Intersports yma yn y ddinas. I'r rhai ohonoch sydd, fel fi, wedi cwympo mewn cariad â rygbi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf mae Y Siop Rygbi a Siop Swyddogol y WRU yma i chi fanteisio arnynt, ac wrth gwrs mae JJB a JD yma i gwrdd ag unrhyw anghenion.
Shoes, glorious shoes. Os mai esgidiau neu dreinyrs ydych chi'n hoff o'u prynu (neu eu casglu) bydd siopa yma yng Nghaerdydd yn wledd i chi gyda Cube, Schuh, Faith, Foot Locker a Ravel i enwi ond ychydig. I bobl sy'n llyfrbryfed, mae yna sawl siop lyfrau sy'n gwerthu nofelau Cymraeg a Saesneg. Ond os ydych am fanteisio ar gelfyddyd gweledol mae Neuadd Dewi Sant, Theatr y Sherman, Y Theatr Newydd a Chanolfan y Mileniwm (Chitty Chitty Bang Bang sy'n cael ei lwyfannu yno ar hyn o bryd!) yn cynnig amrywiaeth o sioeau - efallai y dewch ar draws Matthew Rhys neu Ioan Gruffudd. Beth am alw (yn rhad ac am ddim) yn yr Amgueddfa Genedlaethol ger Neuadd y Ddinas neu yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan? Neu beth am brofi hanes yng Nghastell Caerdydd neu yng Nghastell Coch?
Un o drysorau cudd y ddinas yw'r farchnad cynnyrch ffermwyr sy'n cael ei chynnal ar hyd Arglawdd Fitzhammon yng Nglanyrafon (Riverside) bob bore Sul. Yno, cewch gyfle i fantesio ar awyrgylch aml-ddiwylliannol y ddinas gyda stondinau bwyd o bob math gan gynnwys stondinau o gig a chaws Cymreig i stondinau bwyd Eidalaidd ac Indiaidd. Ewch i ddarganfod y trysor hwn!
Ymchwiliwch a mentrwch i bob twll a chornel o'r drysfaoedd hyn a chewch eich diddannu gan yr hyn sydd gan y ddinas hon i'w gynnig. Ond wrth gwrs, er mwyn siopa, siopa, siopa mae'n rhaid cael un ffynhonnell eithaf pwysig, sef arian. Os mai arian parod ydych chi am ei ddefnyddio mae oddeutu deg o fanciau ar Heol y Frenhines yn unig. Neu wrth gwrs, mae'r hen gyfaill plastig yn eithaf defnyddiol.
Cerddoriaeth
Mae Caerdydd wedi magu nifer o gerddorion talentog sy'n enwog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol - Shirley Bassey, Ivor Novello, Charlotte Church, Heather Jones, Super Furry Animals i enwi rhai. Ond ble gallwch chi ddod ar draws sêr y dyfodol?
Clwb Ifor Bach- 11, Stryd Womaby
Yr hen cliché yng nghanol y ddinas. Yma y bydd cymuned o Gymry Cymraeg i'w gweld bob nos Sadwrn ac mae'n nodedig am ei Gymreictod bryd hynny. Yma y mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gigs dros gyfnod yr Eisteddfod (ar ddau lawr gwahanol) ac mae cymysgedd o fandiau mawr a newydd yn chwarae yno. Yma y gwelwn gyfraniad nifer o gynddisgyblion Ysgol Glantaf yn ystod yr wythnos gan gynnwys Huw Stevens, Gareth Bonello, Random Elbow Pain a Hanner Pei. Yma mae gigs gorau'r wythnos, yn fy marn i, ond does dim llawer o le! Peidiwch â cholli Elin Fflur, Ryan Kift a Lowri Evans ar y Llawr Uchaf a Chwis Tafarn Huw Evans, Gareth Bonello a She's Got Spies ar y Llawr Isaf ar nos Lun 4 Awst.
Maes B
Lleolir Maes B eleni yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ym Mhlas y Parc. O ganol yr wythnos ymlaen fe fydd dau lwyfan yn cael eu defnyddio. Digon o ddiodydd rhad mewn adeilad myfyrwyr - sy'n apelio. Peidiwch â cholli Cerys Matthews, Fflur Dafydd a'r Barf, Gai Toms ac Al Lewis yn y Neuadd Fawr nos Fercher 6 Awst.
Maes C
Er mai lle i bobl yn eu 30au a 40au sy'n gwrthod derbyn eu bod nhw'n mynd yn hen yw'r lle yma, mae yna gigs nostalgic gwych yn cael eu cynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Cynhelir y nosweithiau mewn pabell ar Faes Carafanau'r Eisteddfod. Bydd cyfle i deithio nôl i oes aur Caws Cymreig yr 80au yng nghwmni Chis ar nos Fawrth y 5ed o Awst a chewch "Ffyncio" gyda Hanner Pei (band sydd wedi ail-ffurfio'n arbennig ar gyfer digwyddiadau Eisteddfod Caerdydd) ar nos Sadwrn Ola'r Eisteddfod. Nawr mae'r 90au yn retro ond byddwch chi'n siwr o weld llond dwrn o'ch athrawon yn bopio ac yn canu gan wybod geiriau'r caneuon i gyd!
Barfly- Kingsway
Eto yng Nghanol y ddinas, mae llawer o bobl ifanc yn mynychu'r gigs yma felly nid yw ar agor yn hwyr iawn. Mae bandiau gwahanol bob nos ac mae tocynnau ar gael ar y wefan am tua £5.
Café Jazz- 21 St Mary Street
Lle i ymlacio a mwynhau'r gerddoriaeth, yn llai prysur na chlybiau eraill ac mae'r bwyd yn rhad. Mae perfformiadau gwahanol bob nos yn y caffi bach yma, cerddoriaeth Jazz yn bennaf- yr hen, y newydd a doniau lleol.
Buffalo Bar- 11 Windsor Place
Bar gweddol dawel ar ddau lawr. Ddydd Sul y 3ydd o Awst mae cerddoriaeth cabaret ac acwstig tan yn hwyr.
Glo Bar- 4 Churchill Way
Bwyd a diod da yn arbennig bwyd a chynnyrch Cymreig. Nos Sul y 3ydd o Awst mae cerddoriaeth fyw yma tan yn hwyr fel rhan o Å´yl Fandiau a DJ's Caerdydd.
10 Feet Tall- 11a-12 Church Street
Mae'r bar/caffi yma ar dri llawr ac yn lle delfrydol i ymlacio gyda bwyd a gwin da. Mae cerddoriaeth wahanol i'r arfer i'w gael yma. Ar nos Lun y 4ydd o Awst o 9 o'r gloch ymlaen bydd Eugene Francis Jr yn perfformio 'folk-pop' ac ar nos Fawrth y 5ed o Awst bydd Patchwork Grace (cerddoriaeth bync) yn perfformio yno o 8 o'r gloch ymlaen.
Chwaraeon yn y ddinas
Mae Caerdydd yn gartref i bob math o chwaraeon, o rygbi a phêl-droed i fowlio a golff. Yng nghanol y ddinas mae cyfleusterau o safon ryngwladol fel y pwll nofio rhyngwladol, clwb tenis y castell, stadiwm criced Gerddi Soffia ac, wrth gwrs, Stadiwm y Mileniwm. Gellir gweld chwaraeon o bob safon ym mhob cornel o'r ddinas ar benwythnosau gan fod yna dros 50 o glybiau rygbi a phêl-droed ledled y ddinas.
Y prif dîm pêl-droed yw CPD Dinas Caerdydd, neu'r Adar Gleision sydd yn chwarae ym Mharc Ninian yn ardal Lecwydd a Grangetown yng Ngorllewin Caerdydd. Un tymor sydd yn weddill gan y clwb yn y stadiwm hwn gan fod un newydd â 30,000 o seddi yn cael ei adeiladu dros y ffordd ar hyn o bryd. Fe gyrhaeddodd y clwb rownd derfynol Cwpan yr FA y tymor hwn am y tro cyntaf ers iddynt ennill y gystadleuaeth yn 1927. Mae cefnogwyr y clwb yn enwog am wneud yr "Ayatollah", yn cynnwys rhai enwogion fel yr actor Sir Stanley Baker a'r nofiwr David Davies.
Ychydig filltiroedd i ffwrdd mae Parc yr Arfau lle mae tîm rhanbarth rygbi'r Gleision yn chwarae eu gemau cartref. Gellir gweld Llewod a sêr rhyngwladol megis Tom Shanklin a Xavier Rush yn dangos eu doniau yn wythnosol ar lannau'r afon Taf yn ogystal â sêr ifanc sy'n gynddisgyblion o Ysgol Glantaf fel y brodyr Robinson a Jamie Roberts. Fel prifddinas Cymru daw Caerdydd yn fyw pan gynhelir gêm rygbi ryngwladol yma, yn enwedig ym mhencampwriaeth y chwe gwlad pan fydd mwy na 70,000 o bobl yn mwynhau gwylio Cymru yn Stadiwm y Mileniwm.
Yn brifddinas gwlad sydd yn enwog am focsio, mae Caerdydd wedi gweld nifer o nosweithau bythgofiadwy. Yn ogystal â magu enwogion fel Jim Driscoll ac, yn fwy diweddar, y pencampwr byd Steve Robinson, mae'r ddinas wedi cynnal gornestau fel Lennox Lewis yn erbyn Frank Bruno a Joe Calzaghe yn erbyn Mikkel Kessler.
Gallwch brofi rhai o'r campau hefyd gyda nifer o gyfleusterau chwaraeon ar agor i'r cyhoedd. Yng ngogledd y ddinas mae llynnoedd lle gallwch ddysgu hwylio. Ewch i ddysgu canŵio yn y Bae neu nofio yn un o'r canolfannau hamdden sydd ar hyd a lled y ddinas. Mae cyfleusterau beicio gwych ar gael yn Maindy lle cynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad yn 1958.
Os ydych am flasu rhywbeth mwy annisgwyl mae fersiwn Brydeinig o bêl-fas yn boblogaidd yng Nghaerdydd ac yn flynyddol mae Cymru yn herio Lloegr yng nghaeau Clwb Pêl-fas Trefynach. Mae prifddinas Cymru hefyd yn gartref i Ddiawled Caerdydd (Cardiff Devils), cewri ym myd hoci iâ yn y gorffennol a Chlwb Criced Morgannwg sydd yn cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol. Yn wir, mae rhywbeth at ddant pawb ar gael yng Nghaerdydd, boed yn wylio Cyfres y Lludw yng Ngerddi Sophia, neu'n mwynhau hwylio yn y Bae.
Gan: Rhys, Jessica, Gwenno, Megan, Rebecca a Steffan.
Awst 2008