|
|
|
Gigs gwerth chweil Java, Sibrydion, Mattoidz, Sleifar a'r Teulu, Swci Boscawen, MC Saizmundo |
|
|
|
Lowri Johnston yn gigio - nos Wener: Java, Sibrydion, Mattoidz, Sleifar a'r Teulu, Swci Boscawen, MC Saizmundo
Penwythnos ola'r Eisteddfod ac mae'r cyffro i'w deimlo wrth fynd mewn i Undeb y Myfyrwyr ym Mangor.
Oherwydd fy anallu i reoli amser yn gall, dwi'n colli Java a Sibrydion, er mawr siom imi.
Dal Mattoidz Ond diolch byth dwi'n dal Mattoidz, ac er imi eu gweld nhw fyw na 30 o weithiau erbyn hyn, maen nhw'n dal i blesio! Set yn llawn o'r ffefrynnau roclyd - TÅ· yn Nhidrath, Tan y Tro Nesa', Angel a'r ffeinali arferol - Sos Coch - gyda rhan helaeth o'r gynulleidfa yn mynd yn nyts! Swci Boscawen yw prosiect Mared Lenny o Gaerfyrddin oedd Doli gynt.
Yn dechrau'r set gyda'i sengl 'Swci' sy'n gân bop/roc dda iawn, mae'r set yn eitha' byr ond dwi'n mwynhau yn fawr.
Mae'n fy atgoffa o Blondie ac mae gan Mared lais cofiadwy ac unigryw a phresenoldeb da iawn ar lwyfan. Edrych ymlaen i glywed mwy ganddi!
Prif fand y noson Yn llawer rhy fuan i mi, daw prif fand y noson i'r llwyfan - Sleifar a'r Teulu.
Ar ôl eu gweld yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni ac wedyn ffilm ohonynt yn recordio sesiwn John Peel yn Maida Vale yn gynharach yn y noson yn Pictiwrs yn y Pyb, rwy'n gwir edrych ymlaen i'w gweld nhw, a dydy nhw ddim yn siomi!
Er dwi ddim cweit yn cofio trefn y caneuon (wel, mae'n nos Wener a dwi wedi bod yma ers wythnos!), maen nhw'n dyn ac mae'r rapwyr i gyd yn cydweithio'n wych - Steffan Cravos, Gareth "Chef" Wiliiams, Cynan Kenavo, Cofi Bach a Tew Shady, Llwybyr Llaethog... Ma' pawb 'ma!
"Mae'n mynd i fod yn ddiwrnod da yn ôl pob sôn..." yn uchafbwynt i mi; cân wych, chilled, perffaith ar gyfer yr haf.
Hefyd 'Cynrychioli' gyda phob rapiwr ar y llwyfan yn cael y cyfle i arddangos eu doniau - o'r Cynan Llwyd ifanc, hynod addawol i'r rhai mwy addawol fel John o Llwybr Llaethog a Steffan Cravos.
Trawsdoriad o rapwyr Cymru ar un llwyfan - dwi yn y nefoedd!
Mae'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn teimlo'r un fath gyda nifer yn dawnsio'n wyllt ac yn amlwg yn mwynhau. Noson sy'n dod i ben llawer rhy fuan!
Gigs gwerth chweil Rhaid llongyfarch Cymdeithas yr Iaith ar gynnal wythnos gyfan o gigau gwerth chweil gyda llawer o amrywiaeth.
Er na fues i yng Nghofi Roc yng Nghaernafon, mae'n debyg iddyn nhw fod yn llwyddiant mawr.
Ond dwi'n gallu cadarnhau fod y gigiau yn Amser, Bangor yn wych ac hefyd yn llwyddiant mawr. Llongyfarchiadau i'r trefnwyr - gan edrych ymlaen at y flwyddyn nesa' yn Eisteddfod Abertawe...!
Mattoidz
|
|
|
|
|
|