|
|
|
Cyngerdd olaf ar y teledu Hanes Llywelyn Fawr gan Robat Arwyn |
|
|
|
Bydd cyngerdd cloi'r Eisteddfod Genedlaethol, gyda'r bariton Bryn Terfel, yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C, Sadwrn, Awst 6 am 20.30.
Daeth S4C a 91Èȱ¬ Cymru, sy'n cynhyrchu darllediadau'r Eisteddfod ar S4C, i gytundeb munud olaf gyda'r trefnwyr.
Ar y sioe, Er Hwylio'r Haul, perfformir gwaith newydd, 16 cân, y cyfansoddwr Robat Arwyn, am y tro cyntaf. Mae'n adrodd hanes un o dywysogion olaf Gwynedd, Llywelyn Fawr.
Cymerir rhan gan Bryn Terfel, y soprano Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod o dan arweiniad Pat Jones.
Fel arfer, y cystadlaethau mawr fel y Corau Meibion a Gwobr Goffa David Ellis, Y Rhuban Glas, sydd ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod. Bu hynny nos Wener eleni.
Hufen cerddorol "Mae'r sioe yn tynnu ynghyd hufen cerddorol Gwynedd - y cyfansoddwr Robat Arwyn, sy'n wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, Bryn Terfel o Bantglas a'r soprano Mari Wyn Williams o Lanberis," meddai llefarydd ar ran S4C.
.Mae Robat Arwyn, llyfrgellydd sy'n awr yn byw yn Rhuthun, wedi cyfansoddi nifer fawr o ganeuon cofiadwy, Yn gyn aelod o'r grŵp Trisgell, mae wedi ysgrifennu deg o sioeau cerdd, saith ohonynt wedi'u comisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Meddai Bryn Terfel: "Mae'n wych bod yr Eisteddfod wedi comisiynu Robat Arwyn i ysgrifennu'r gwaith cerddorol am un o dywysogion mawr Gwynedd, Llywelyn Fawr. Rwy'n siŵr mai hwn fydd y cyntaf o sawl perfformiad. Bydd yn fraint hefyd rhannu llwyfan gyda'r soprano ifanc, ddisglair, Mari Wyn Williams."
Tocynnau - 0845 1221176.
|
|
|
|
|
|