|
|
|
Parc chwarae i'r plant Ray Gravell yn ymweld |
|
|
|
Bydd y Mudiad Ysgolion Meithrin yn trefnu parc chwarae ar gyfer plant hyd at saith oed ar faes yr Eisteddfod. Bydd yn union o flaen uned y Mudiad.
Cafwyd nawdd gan Adeiladwaith WRW Cyf. i brynu'r holl offer ar ei gyfer a bydd Ray Gravell, un o gyfarwyddwyr WRW, yn galw heibio am 12.00 o'r gloch, ddydd Mawrth, Awst 2.
Dywedodd Robert Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Adeiladwaith WRW Cyf. i'w cwmni fod yn cydweithio'n agos â'r Mudiad Ysgolion Meithrin yn adeiladu Canolfan Integredig newydd y Mudiad yn Aberystwyth sy'n cynnwys meithrinfa ddydd Camau Bach a phencadlys newydd y Mudiad.
Bydd lluniau o'r ganolfan uchelgeisiol hon yn uned Mudiad Ysgolion Meithrin.
Bydd twb tywod a theganau tywod, tÅ· bach twt, sleidiau ac offer parc amrywiol yn rhan o'r parc lliwgar yma fydd ar agor o 9.30 bore dydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod hyd at 5.30 bob nos.Meddai Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata MYM: "Fel mam i blant ifanc fy hun, roeddwn yn awyddus i greu cornel i rieni a'r plant ymlacio yn yr eisteddfod. Gall y plant ddifyrru eu hunain yma a chyd chwarae efo plant eraill tra bo'r rhieni'n eu goruchwylio o'r seddi patio a fydd yn rhan o'r parc.'
|
|
|
|
|
|