91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
John O Pritchard Arweinydd y Cymry tramor
Cymro o Vancouver fydd arweinydd yr ymwelwyr o dramor yn yr Eisteddfod eleni.
Ond o Dalysarn, Dyffryn Nantlle y daw John Owen Pritchard - John O P - yn wreiddiol.

Bydd rhai yn ei gofio fel pêl-droediwr medrus a phoblogaidd yng ngogledd Cymru cyn iddo fudo i Ganada lle mae'n awr wedi ymddeol yn dilyn gyrfa ym myd addysg.

Mae o, a'i wraig Llinos, yn Gymry Cymraeg.

"Cymraeg ydi iaith yr aelwyd hon," meddai wrth ddisgrifio ei gartref yn Vancouver, British Columbia.

Ar ôl gadael Ysgol Dyffryn Nantlle ymunodd John a'r RAF gan ddilyn wedyn gwrs hyfforddi athrawon yn Y Coleg Normal, Bangor.

Bu'n dysgu yn Ysgol Glanadda, Bangor, ac Ysgol Segontiwm, Caernarfon, cyn symud i Ganada lle'r oedd ganddo ewythr.

Yng Nghymru yr oedd yn bêl-droediwr medrus. Chwaraeodd i Talysarn Celts, Nantlle Vale, Y Coleg Normal a Bangor.

Gydag Ambiwlans Sant Ioan yr oedd ei swydd gyntaf yng Nghanada a hynny'n gyfle iddo ddod i adnabod rhan helaeth o'r wlad oherwydd bod cryn deithio wrth y swydd.

Cyfarfu ef a Llinos pan oedd o'n athro yn Nhoronto a hithau, y ferch o Aberangell, Meirionnydd, yn nyrs yno.

Dychwelodd y ddau i Gymru i briodi a setlo wedyn yn Vancouver lle parhaodd Llinos i nyrsio.

Tra'n athro yno astudiodd John ar gyfer gradd mewn Seicoleg yn ei amser hamdden ac fe'i penodwyd yn seicolegydd addysg.

Y mae'n aelod blaenllaw a gweithgar o'r Gymdeithas Gymraeg yn Vancouver ers blynyddoedd - dinas lle mae'n cyfuno ei hoffter o bethau Cymraeg gyda'i ddiddordeb mawr mewn golff.

Trawodd dwll mewn un fwy nag unwaith! Cliciwch

Ymhlith y Cymry y mae wedi eu croesawu ar y maes golff y mae Bryn Terfel.

Ond mae nifer o Gymry eraill wedi profi ei groeso ef a Llinos yn y wlad.

Pan ymwelodd Gŵyl Gymreig Gogledd America - yr hen Gymanfa Ganu Gogledd America - â Vancouver ddwy flynedd yn ôl ef ddarllenodd bennod o'r Beibl yn y gwasanaeth bore Sul.

Y mae'n eisteddfodwr brwd ac yn ymwelydd cyson ag eisteddfodau'r Gogledd.

"Ganwyd a magwyd John yn Eryri; gadawodd Eryri ond dydi o erioed wedi anghofio Eryri na'r Gymraeg," meddai cyfaill amdano.

Bydd seremoni cyfeillion Cymru o dramor ym Mhafiliwn yr Eisteddfod brynhawn Iau.

Bydd nifer o ymwelwyr o dramor yn galw ym mhabell Undeb Cymru a'r Byd ar y maes yn ystod yr wythnos.


Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý