|
|
|
Croeso Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Richard Morris Jones yn gwahodd Cymru i'r Faenol |
|
|
|
Neges oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005, Richard Morris Jones
Aeth dros dwy flynedd heibio ers cychwyn sefydlu 39 o bwyllgorau apêl lleol, gyda'r bwriad o sicrhau Eisteddfod lewyrchus ar Stad y Faenol yn Awst 2005.
Rwy'n ysgrifennu hwn o fewn mis i'r eisteddfod honno sy'n barod i groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru - ac, yn wir, o weddill y byd - i fwynhau gwledd am wythnos yn nechrau Awst.
Codi arian Mae'r ardal hon yn enwog am ei chroeso, ac am ei Chymreictod, ac mae hynny wedi'i amlygu ei hunan yn y bwrlwm o weithgaredd sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd diwethaf.
Roedd pob pwyllgor apêl wedi gosod targed ariannol i ymgyrraedd ato, a da gallu dweud bod y rhan fwyaf o ddigon o'r pwyllgorau wedi hen basio'r targed hwnnw.
Cyfanswm y targed oedd £260,000 a bellach rydym wedi cyrraedd £330,000, a'r arian yn parhau i gyrraedd.
Gosodwyd nod arian nawdd o £350,000, bellach rydym dros £400,000.
Gwerthiant tocynnau Os ydych am fynychu'r cyngherddau, ewch ati i brynu tocynnau, mae'r gwerthiant yn rhyfeddol o uchel eisoes.
Mae'r niferoedd sydd yn dymuno cystadlu yn uwch na'r niferoedd yn y rhan fwyaf o eisteddfodau diweddar, felly bydd yn werth chweil mynychu'r pafiliwn yn ystod y dydd hefyd.
Y traffig Bu nifer o straeon am broblemau tebygol y traffig, yn bennaf oherwydd y gwaith ar Bont Menai ac er nad wyf yn anwybyddu yr ofn, anogaf chwi i gychwyn rhyw hanner awr yn gynt na'r arfer, a dilyn cyfarwyddyd Carys !
Ia, Carys ofalus, mascot newydd Cyngor Gwynedd.
Bydd miloedd o bamffledi yn cael eu dosbarthu yn dangos y llwybrau traffig mwyaf effeithiol i gyrraedd maes yr Eisteddfod, ac mae'r heddlu yn cydweithio eisoes gyda swyddogion yr eisteddfod i geisio datrys a lleddfu unrhyw broblem.
Gweithgareddau Yn ystod eich arhosiad, cofiwch am weithgareddau Maes B i'r ieuenctid, Maes C fydd yn Galeri Caernarfon, a'r stomp fawr yn y Castell, a drama Porc Peis Bach yn Theatr Gwynedd gydol yr wythnos.
Crwydro Cofiwch hefyd am ardaloedd glan môr hyfryd Pen Llŷn, dinas dysg Bangor, hen dref castellog Caernarfon, a hen ardaloedd chwareli Dyffryn Peris, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle, y cyfan werth awr neu ddwy o, grwydro.
Ond peidiwch a chrwydro gormod, ryda ni yn awyddus i gael miloedd ar y maes i dorri pob record ac i gynorthwyo'r eisteddfod yn y cyfnod anodd hwn.
Os yw tystiolaeth y dwy flynedd o baratoi yn arwydd o'r hyn sydd i'w ddisgwyl, yna mi ryda ni am eisteddfod hapus iawn.
Dewch i rannu'r hapusrwydd hwnnw. Croeso i Eryri.
|
|
|
|
|
|