|
|
|
Dylan Iorwerth - prif lenor Camp newyddiadurwr |
|
|
|
Ni chafodd cyfrol gymaint o ganmoliaeth ag un Dylan Iorwerth ers amser maith.
"Aeth cyfrol swmpus Sam [ei ffugenw] â'n gwynt ac â'n bryd o'r darlleniad cyntaf un meddai beirniaid cystdleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Eryri 2005, Catrin Stevens, Geraint Vaughan Jones a Meinir Pierce Jones.
"Dim ond llenor wrth reddf a allai fod wedi llunio'r ystod lenyddol sydd yn y casgliad hwn," meddent mewn beirniadaeth gyfansawdd.
Fe'i disgrifiwyd fel "llenor praff" allai droi'r "cyfarwydd yn anghyfarwydd hyll a brawychus a'r cyffredin yn anghyffredin dychrynllyd - yn argyfyngau bygythiol ac anesboniadwy sy'n adleisio ein hofnau dyfnaf am fywyd heddiw."
Canmolwyd ei ddawn i "ysgrifennu'n ddoniol, weithiau'n abswrd hyd yn oed, yn grafog sardonig, yn dyner ac yn egr mewn deialog a thraethiad."
"Yn sicr dyma lenor hyderus ei gyfrwng a'i neges, aeddfed ei weledigaeth a chyson ei safon aruchel. Mae'n dweud cymaint wrtthym am ein byd ni heddiw. Hyd yn oed mewn cystadleuaeth luosog a chymeradwy iawn ei safon fel hon, y mae Sam ben ac ysgwydd diogel uwchben ei gyd gystadleuwyr," meddai.
Yn dilyn y seremoni dywedodd Dylan Iorwerth iddo "dorri asgwrn cefn" sgrifennu'r gyfrol yn ystod gwyliau yn yr Eidal.
Dywedodd mai ei ddull oedd codi'n gynnar o flaen y teulu a defnyddio'r cyfnod hwnnw o'r bore i sgrifennu.
Ynglŷn â thestun y gystadleuaeth - cyfrol yn darlunio cyfnod dywedodd:
"Allwch chi byth ddarlunio cyfnod cyfan yr unig beth allwch chi wneud ydi cymryd rhyw ddarnau bach ohono fo sydd, gobeithio, yn dweud rhywbeth amdano fo - a dyna'n union ydi'r llyfr. Dydio ddim yn ddarlun cyflawn dim ond rhai pethau sydd wedi taro rhywun. "Mae'n ymwneud a phethau fel y ffordd yr ydan ni'n cyfathrebu - mae yna sawl darn, er enghraifft, yn troi o gwmpas pethau fel ffonau symudol ac mae yna ddarn am dagfa draffig s'tr syniad y gallech chi gyrraedd amgylchiadau y mae trafnidiaeth gyfan yn dod i stop," meddai.
"Dwi'n cymryd rhyw un syniad bach felna a'i ddatblygu fo," ychwanegodd.
O ran ffurf dywedodd eu bod yn "gymysgedd llwyr" yn ysgrifau, erthyglau a straeon.
""Mae yna un adroddiad gan gorff sy'n ceisio cysoni ieithoedd y byd ac sy'n mynd i drwbwl pan ydy nhw'n dod ardraws enw Euryn Ogwen!" meddai.
YnglÅ·n a'r berthynas rhwng newyddiaduraeth a llenyddiaeth dywedodd;
"Mewn newyddiaduraeth yr ydych chi'n gorfod dysgu sut i beidio gorddefnyddio geiriau a bod yn gynnil. "Amseru pethau hefyd a chael pethau i ddilyn mewn rhyw drefn gymharol gall. Yn sicr mae beth mae rhywun yn ei ddysgu mewn newyddiaduraeth yn medru bod o help," meddai.
Gwobrwyo Dylan
|
|
|
|
|
|