|
|
|
Gwilym Owen - dydd Mawrth Yr olwynion yn troi |
|
|
|
Hawddamor o Faes Prifwyl Fawr Snowdonia ar fore Mawrth. Ac erbyn hyn mae olwynion y jyncet fawr yn troi go iawn.
A thra'n sôn am olwynion mae'n deg cyfaddef fy mod i a'r rheiny fu'n codi bwganod am drafferthion traffig ym mro'r Steddfod wedi cael ein profi'n anghywir.
A gobeithio mai felly y pery hi.
Bws bws Ond biti, biti - chafodd aelodau Gorsedd y Beirdd ddim cyfle i roi perfformans yng nghylch y meini plastig ddoe. Gormod o fwd ar y maes i'r creaduriaid cobannog orymdeithio i'r cylch falle.
Doedd dim amdani, felly, ond cael rhes o fysus i fynd â nhw i Neuadd Pritchard Jones yn y coleg ym Mangor i fynd drwy'u pethau.
A thrwy hynny, wrth gwrs, greu mwy fyth o fwd ar y Maes i bawb arall. Ie wir, joli iawn.
Er cof Ac mae'n debyg mai heddiw ar y Maes yma y gwelwn ni yr arwydd cyntaf nad ydi Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn bwriadu marw'n dawel cyn cael ei daflu ar goelcerth cwangos Rhodri Morgan - ac y cawn ni fwy o gicio'r tresi ddydd Iau pan fydd yr Athro Colin Williams yn cyflwyno darlith fel aelod o'r Lingo Cwango.
Go brin y bydd gwrthryfel o'r fath ar y Maes yn plesio y gweinidog iaith a diwylliant.
Ie, Alun Pugh, y feri dyn sy'n ystyried dyfodol ariannol y Steddfod. Och!
Be nesa A diddorol oedd gweld fod cymdeithas Cledwyn - cymdeithas Gymraeg y Blaid Lafur a gyfarfu ym Mhabell y Cymdeithasau wedi dewis trafod y pwnc, Ble nesa i Ewrop? Ond o gofio fod dyfodol y Brifwyl yn dibynnu cymaint ar gefnogaeth ariannol llywodraeth eu plaid nhw yn y Cynulliad Cenedlaethol oni ellid fod wedi ystyried Ble nesa i'r Brifwyl? fel pwnc eleni - inni gael gweld sut mae'r gwynt yn chwythu.
Dysgu godro Ac er nad ydi'r Archdderwydd newydd yn fodlon siarad Saesneg ar y Maes mae o wedi cytuno i gymryd rhan y bore ma mewn cystadleuaeth godro efo llaw ar stondin yr NFU.
Y fo, fe ymddengys, ydi'r unig bwysigyn eisteddfodol sy'n cymryd rhan. vTrueni am hynny, gallai'r profiad fod yn werthfawr i holl aelodau'r Sanhedrin o gofio'r angen i odro'r coffrau cyhoeddus y dyddiau hyn.
Ymbincio A gorffen efo sibrydion i godi calon cefnogwyr yr hen grŵp poblogaidd, Y tebot Piws.
Y sôn ydi eu bod nhw wedi dod yn ôl i recordio cân newydd sbon gyda'r cyn archdderwydd, Robyn Llŷn.
Cân a glywir am y tro cynta yng nghyfarfod llys y Brifwyl ddydd Gwener - Dan ni ddim Isio Mynd i Lerpwl.
Mae disgwyl mawr amdani.
|
|
|
|
|
|