Awyr lwyd - ond dim glaw yw hi ar faes yr Eisteddfod fore Llun. Hynny'n dilyn tridiau o law di-baid sydd wedi troi'r maes yn fwd soeglyd.
Ond er gwaethaf y tywydd difrifol ymwelodd 16,000 â'r Eisteddfod hon y diwrnod cyntaf .
Mentrodd dros fil i'r Cyngerdd agoriadol nos Wener ac yn ôl y ffigurau swyddogol troediodd 12,759 y maes ddydd Sul.
Y darogan yw y bydd yn ddiwrnod sych heddiw, ddydd Llun, a hynny'n gyfle i'r maes ddechrau sychu ar gyfer y tywydd brafiad y gobeithir amdano weddill yr wythnos.
Yn y cyfamser bydd defnydd mawr ar y tracfyrddau bendithiol ar y maes yn parhau a dywedodd Elfed Roberts, cyfarwyddwr yr Eisteddfod, y bydd gwerth £16,000 yn ychwanegol yn cyrraedd erbyn y prynhawn a'u defnyddio hefyd ar Faes B a'r meysydd parcio hefyd.
Defnyddiwyd peiriannau sugno dŵr hefyd i helpu sychu'r maes.
Ar gyfer seremoni'r orsedd cludwyd yr aelodau mewn bysus i neuadd PJ yn y brifysgol ym Mangor - gan golli'r cyfle cyntaf i ddefnyddio y meini plastig newydd!Tywydd Cymru