|
|
Cofio Thomas Jefferson Dadorchuddio cofeb ar y Maes |
|
|
|
Bydd seremoni arbennig ar faes yr Eisteddfod nos Iau i ddadorchuddio cofeb i Gymro a ddaeth yn drydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau - Thomas Jefferson.
Wedi ei gwneud o lechen Gymreig bydd y gofeb yn cael ei dadorchuddio i gloi Diwrnod Cymru a'r Byd yn yr Eisteddfod.
Bydd y gofeb yn cael ei gosod maes o law yn Amgueddfa Lechi Llanberis.
Meddai'r Dr Dafydd Roberts, Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru: "Mae'n bwysig i ni gadw'n fyw y cysylltiadau hanesyddol sydd gennym gyda'r Unol Daleithiau ac mae cofeb Thomas Jefferson yn un ffordd arbennig o wneud hyn. Wedi'r cwbl, rydym hefyd yn dathlu'n cysylltiadau cyfoes."
Ond cyn y dadorchuddiad bydd cyfle hefyd i Americanwyr ac eraill ymweld â stondin Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod i goffáu Jefferson, trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau.
"Mae gan Gymru gysylltiadau o bob math â Gogledd America a thebyg bod rhyw ddwy filiwn o boblogaeth bresennol yr Unol Daleithiau yn ymwybodol o'u tras Cymreig," meddai llefarydd ar ran Amgueddfeydd ac Orielau Cymru.
Ychwanegodd fod 11 o Arlywyddion yr Unol Daleithiau ac 17 o'r rhai a arwyddodd y Datganiad Annibyniaeth â chefndir Cymreig.
Y gred yw fod gan Jefferson gysylltiadau â'r ardaloedd chwarelyddol wrth droed yr Wyddfa - er nad oes modd profi.
Un peth sy'n sicr, mudodd chwarelwyr a'u teuluoedd i'r Unol Daleithiau i geisio bywyd gwell a dianc rhag gormes tirfeddianwyr yn eu gwlad eu hunain.
Yr oedd dwsinau o chwareli llechi yn ardal Granville, talaith Efrog Newydd, gydag enwau fel "Arvon" a "Penrhyn", a Chymry oedd yn rhan fwyaf o'r gweithwyr. Mae'r cysylltiadau'n parhau heddiw.
Yn rhyfeddol mae'r cysylltiad hwnnw yn parhau gyda chwmni McAlpine, sydd yn berchen Chwarel y Penrhyn ym Methesda, hefyd yn berchennog Chwarel Hilltop yn nhalaith Efrog Newydd!
|
|
|
|
|
|