|
|
|
Stomp y castell Stomp awyr agored gyntaf erioed |
|
|
|
Bydd yr hyn sy'n cael ei alw y Stomp awyr agored gyntaf erioed yn cael ei chynnal wythnos yr Eisteddfod eleni. Mae'r Stomp yn cael ei disgrifio hefyd fel y dyddiad pwysicaf yn hanes castell Caernarfon ers i filwyr Madog ap Llywelyn geisio cipio'r Castell yn y drydedd ganrif ar ddeg!
Noson y Stomp, Awst 5, bydd y gynulleidfa yn eistedd mewn steil picnic o fewn y castell i wrando ar 16 o feirdd - Arwel "Pod" Roberts, Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Gwyneth Glyn, Ifan Roberts, Ifan Prys, Nia Medi, T James Jones, Gwion Hallam, Aneirin Karadog, Gwenno Mair Davies, Karen Owen, Bethan Gwanas, Huw Erith, Guto Dafydd, Cynan Jones - yn cystadlu am stôl y Stomp dan reolaeth y Stompfeistr, Ifor ap Glyn.
Er y bydd y clwb nos Cofi Roc yn darparu bar ni chaniateir i'r gynulleidfa ddod â diodydd.
Wrth egluro pam y dewiswyd y castell dywedodd Lleucu Siencyno'r Academi:
"Yr ateb yn syml yw ein bod wedi rhedeg mas o syniadau am leoliad a fyddai'n ddigon o faint i gynnal Stomp yn ystod wythnos Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau.
"Gan taw ardal yr Eisteddfod eleni yw'r ardal fwyaf barddol yng Nghymru - hynny yw, mae 'na mwy o feirdd mewn milltir sgwâr yma na'r un ardal arall yn Ewrop - rhaid oedd inni ddod o hyd i le a fyddai'n ddigon o faint, ac yn ddigon urddasol, i gynnwys yr holl feirdd a'u dilynwyr.
"Yn ffodus iawn, roedd Cadw wrth eu boddau â'r syniad, a ry'n ni wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Gwynedd a Chyngor Celfyddydau Cymru i gynnal y noson."
Pris tocyn yw £10, gyda phris gostyngol o £7 i fyfyrwyr, pensiynwyr ac aelodau'r Academi.
Mae tocynnau ar gael o brif swyddfa'r Academi: 029 2047 2266, ac hefyd o Swyddfa'r Academi yn y gogledd: 01766 522817 a chan Gwen Lasarus, Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd ar 01286 679465 (est. 2465).
|
|
|
|
|
|