|
|
|
Cwyno am safon iaith nofelwyr Methu gwobrwyo'r nofel orau |
|
|
|
Daeth safon sgrifennu Cymraeg dan ordd beirniaid gwobr Goffa Daniel Owen yn Eryri eleni.
Yn eu beirniadaeth gyfansawdd - a gyhoeddir yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a'r Beirniadaethau heddiw - dywed Elfyn Pritchard, Bethan Mair a Chatrin Puw Davies fod nifer y rhai â ymgeisiodd ar y gystadleuaeth hon yn "destun llawenydd".
Ond maen nhw'n ychwanegu: "Nid felly lawer o'r mynegiant sydd yn y nofelau hyn."
Hen gŵyn Ac maen nhw'n ychwanegu nad rhywbeth newydd, eleni, yw y pryder hwn am safon iaith cystadleuwyr:
"Y mae pwnc yr iaith gyda ni'n wastadol ac nid yw'r flwyddyn hon yn eithriad," meddent gan ychwanegu:
"Yn 2002, cyfeiriodd y beirniaid at lacrwydd y defnydd o'r ferf, at bwysigrwydd cael gafael sicr ar iaith a chystrawen draddodiadol cyn mynd ati i lafareiddio neu i symud yr iaith yn ei blaen."
Wrth amenio cwynion beirniaid y gorffennol am ddiffygion iaith dywedant:
"Yn 2004, ar ôl cyfeirio at nifer o wallau mynegiant a chystrawen, mae un beirniaid yn gofyn: 'Sut y mae trafod a chyfnewid syniadau heb gystrawen sicr?'
"Cwestiwn arwyddocaol. I'r llenor, y gystrawen yw'r craidd, fel y mae'r gynghanedd yn hanfodol i fardd y mesurau caeth ac ni ellir dychmygu sefyllfa lle y byddai beirniaid y gadair am wobrwyo awdl sy'n llawn o wallau cynganeddol.
"Nid elfen sy'n ychwanegol i gynllunio a datblygu syniadau, i ddisgrifio a chymeriadu, i gyfleu gwrthdaro rhwng cymeriadau yw mynegiant, ond rhan annatod o'r holl wead," meddir."
Llyfrau gramadeg Ymddengys fod pethau wedi mynd mor ddrwg y mae'r beirniaid eleni yn teimlo'r angen i ddweud wrth "ddarpar nofelwyr" cyfoes pa lyfrau gramadeg ddylai fod wrth law ganddynt i droi atynt.
Ac i wneud yn siŵr hefyd fod Cysill "yng nghrombil eu cyfrifiaduron".
Y llyfrau sy'n cael eu cymeradwyo ganddynt ydi: Canllawiau Iaith a Sillafu, J Elwyn Hughes, Cywiriadur Cymraeg, Morgan D Jones, Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas a Geiriadur yr Academi, Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones er mwyn "sicrhau na fyddai awduron yn trosi'n uniongyrchol idiomau a phriod-ddulliau ac ymadroddion Saesneg i'r Gymraeg, rhywbeth sy'n bla mewn llawer o ysgrifennu, ac sydd wedi treiddio i fêr esgyrn llenyddol bron bawb ohonom erbyn hyn," meddant.
Colli'r nofel orau Yn wir, syrthiodd y nofel y gellid ei hystyried yn un orau y gystadleuaeth hon gan Luc Swan ar ochr y ffordd oherwydd bod gormod o wallau iaith ynddi!
"Mae'n ddiamau mai Luc Swan yw meddwl praffaf y gystadleuaeth a'r athrylith mwyaf sydd ynddi ... ond er ein bod yn barod i ganiatáu rhai gwendidau ieithyddol ... onid oes yna hefyd ffiniau y mae'n rhaid cadw o'u mewn gan gofio'r cwestiwn ... 'Sut mae trafod a chyfnewid syniadau heb gystrawen sicr?'"
Ychwanegant nad oedd y gwaith a wobrwywyd, hyd yn oed, heb ei wendidau ieithyddol ond nad oeddent yn rhai mor ddifrifol â rhai Luc Swan.
|
|
|
|
|
|