|
|
|
Gwilym Owen fore Gwener Ffarwel i Faes y Faenol |
|
|
|
Hawddamor o Steddfod Fawr Snowdonia ar fore Gwener - a bellach mae jyncet Eryri a'r cyffiniau yn tynnu ei thraed ati.
Ac heddiw, bydd y Sanhedrin yn cyfarfod Llys yr Eisteddfod gyda phenderfyniadau mawr i'w gwneud.
Trafod yr argyfwng (sori!), ie, yr argyfwng ariannol, y cyfansoddiad newydd, etholiadau i'r Cyngor newydd ac, wrth gwrs, cartref i Brifwyl 2007.
Ia, pynciau o dragwyddol bwys i'r Brifwyl - ond prin iawn ydi'r wybodaeth ar bapur i roi arweiniad i'r aelodau.
Mae'n amlwg fod yr arferiad o weithredu yn haul llygaid goleuni yn angof.
Tro ar fyd Ac wrth gwrs mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael wythnos brysur a chael eu galw yn fwlis gan Rhodri Morgan.
Maen nhw wedi bod yn galw am ddeddf Eiddo a Deddf Iaith newydd a rhai wedi bod yn ymprydio.
A pha ffordd well i orffen yr wythnos na chael parti ar y Maes?
A dyna fydd ganddyn nhw y pnawn yma. Bandiau'n chwarae er mwyn ceisio deffro rhywfaint ar Rhodri Morgan a dipyn o fwyd a diod - ac os teimlwch chi fel cael mwy o ddiodydd poethion trowch i Babell y Dysgwyr am yr hyn a elwir yn Clonc a Clonc. Do, daeth tro ar fyd ar Faes y Steddfod.
Dim sôn Anodd deall polisïau golygyddol y papurau Cymreig yn ystod yr Ŵyl hon.
Dyna ichi benderfyniad y Western Mail i beidio â rhoi sylw o gwbl i fuddugoliaeth Dylan Iorwerth yng nghystadleuaeth y fedal lenyddiaeth - ac yntau yn un o golofnwyr rheolaidd y rhecsyn. Sut mae esbonio'r fath beth?
Tynnu sylw Marciau llawn i Robyn LlÅ·n. Yn ei ddull dihafal ei hun mae o wedi llwyddo i ddenu'r penawdau bron bob dydd ac yn debyg o wneud hynny eto heddiw pan fydd y Llys yn cyfarfod.
Dwi'n siŵr y bydd o yno efo geiriau dethol iawn ar fynd â'r Ŵyli Lerpwl.
Hwyrhau Un peth digon annifyr yn yr Å´yl eleni yw i gystadlaethau'r pnawn fod yn rhedeg yn hwyr.
Oes a wnelo hynny rywbeth â'r ffaith mai tair merch ac un dyn sy'n arwain y Brifwyl hon? Dim ond gofyn - cyn rhedeg i guddio.
Pethau cofiadwy Ac wrth gau pen y mwdwl - beth sy'n aros bennaf yn y cof? Wel, y cynadleddau i'r Wasg a'r Sanhedrin yn eistedd bob dydd fel rhes o adar ar weiren telegraff - pob un yn barod i roi caead ar biser pob hen hac a feiddia godi cwestiwn pigog. Arwydd o nerfusrwydd, efallai.
Perfformiad gwyrthiol yr heddlu a'r stiwardiaid parcio i gael trafnidiaeth yr Å´yl i lifo'n hwylus. Fe gefais i, o leiaf, fy synnu gan eu gallu rhyfeddol.
Ac ar lwyfan yr ŵyl y pinacl i mi oedd cyflwyniad unigryw Gruffydd Glyn o Gaerdydd yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Richard Burton. Dyma fachgen ifanc gyda dyfodol disglair iawn ddywedwn i.
Ac, wrth gwrs, y pleser arall oedd cyfarfod Nedwyn John, y ci bach newydd a ddaeth i Babell y wasg eleni.
Cafodd Steddfod ardderchog dwi'n siŵr yn cysgu'n braf dan y bwrdd.
Ond tybed ddaw o'n ôl y flwyddyn nesa? Mi fasa'n braf i weld o. O Faes y Faenol am eleni, bore da ichi.
- Bu Gwilym Owen yn darlledu bob bore ar y Post Cyntaf
|
|
|
|
|
|