91热爆

Theatr - y trafod yn parhau

06 Awst 2010

Cefin Roberts - neb yn deilwng o'r Fedal Ddrama

Ymateb Gwyn Griffiths i 'gyfarfod theatr Barn' ar y Maes

Siom bob amser yw clywed beirniaid yn cyhoeddi nad oes teilyngdod ac yn atal y wobr. Yr oedd clywed Cefin Roberts ar ei ran ei hun a'i gyd-feirniad Mari Emlyn yn cyhoeddi nad oedd drama fer na drama hir yn haeddu'r Fedal Ddrama yn dipyn o syndod.

Roedd yn amlwg nad oedd neb o'r hanner dwsin a gynigiodd yn agos at deilyngdod yn y gystadleuaeth i sgrifennu Drama Fer a dim ond un gafodd ganmoliaeth go lew o'r chwe chystadleuydd am y Ddrama Hir.

Syndod, oherwydd yn y bore b没m yn gwrando ar Roger Owen, Si芒n Summers a Sharon Morgan yn trafod sefyllfa'r ddrama Gymraeg dan gadeiryddiaeth Menna Baines, cyd-olygydd Barn.

Yr oedd pawb yn hyderus am y dyfodol a Sharon Morgan yn cyhoeddi bod gennym y cyfoeth technegwyr, cyfarwyddwyr a sgrifenwyr i ni fedru symud ymlaen gyda hwyl a hyder fel y medrwn glywed lleisiau pawb sy'n gwneud ein cenedl.

Ond yr oedd Cefin Roberts yn ei feirniadaeth yn gorfod holi ble roedd y sgrifenwyr ifainc oedd yn dod i'r brig yn Eisteddfod yr Urdd. Braf hefyd, meddai, fyddai canfod ambell hen law o blith sgrifenwyr profiadol yn cynnig.

Diffyg cynllunio oedd y gwendid, meddai, y cystadleuwyr yn rhuthro'n syth i ddeialogi heb osod fframwaith sicr i'w hymdrechion.

Awgrymu y dylid canoli gwaith y theatr Cymraeg ar Gaerdydd oedd un o ddatganiadau mwy dadleuol Sharon. "Mae bwrlwm o waith yn Saesneg yng Nghaerdydd," meddai, "ond nid yn y Gymraeg. Yr un pryd, Caerdydd yw'r lle gyda charfan fawr o sgrifenwyr.

"Ni fyddai canoli gwaith ar Gaerdydd yn golygu na fyddai'r egni'n llifo allan i weddill Cymru."

Yr oedd y drafodaeth yn rhyw fath o barhad o un gynharach yn yr wythnos. Trafodwyd yr hyn ddwedodd Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru am y Theatr Genedlaethol.

Cyhuddodd yr adolygiad y Theatr Genedlaethol o ddiffyg cysondeb. "Ond nid ffatri yw theatr," meddai Roger Owen, y darlithydd a beirniad drama Barn. "Mae rhai pethau'n mynd i lwyddo a rhai pethau'n mynd i fethu. Mae theatr yn ei hanfod yn beth afreolus."

Canmolwyd Theatr y Sherman am waith datblygu dramau drwy brosiectau hir-dymor. Nododd Si芒n Summers fod y ddrama Llwyth, am griw o fechgyn hoyw, wedi ei datblygu dros gyfnod o dair blynedd.

Teimlai Sharon Morgan y dylai fod gan y Sherman r么l bwysig iawn yn nyfodol y Theatr Genedlaethol o dan y Cyfarwyddwr / Gyfarwyddwraig Artistig a benodir i olynu Cefin Roberts. Cynigiodd amryw awgrymiadau diddorol.

Pwysleisiodd yr angen o gael y gwahanol gwmn茂au i siarad 芒'i gilydd. Ac awgrymodd wahanol gylchdeithau. Y rhai mawr sylweddol, eraill ar gyfer neuaddau pentre a rhai fyddai'n dod rhwng y ddau. Gwneud "pitch" am job, Sharon?


Blogiau 91热爆 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.