DyNA wych - torri record byd
28 Gorffennaf 2009
Plant a phobl ifanc yn mynd i'r afael 芒'r her o greu'r model DNA mwyaf yn y byd!
Mae criw o Gymry ar faes yr Eisteddfod gam yn nes at gael eu cydnabod yn llyfr gorchestion Guinness am greu y model hiraf yn y byd o DNA!
Daeth y fenter i ben y tu allan i'r Pafiliwn Gwyddoniaeth tua chwarter wedi un brynhawn heddiw.
Yno, a hithau'n smwcian bwrw cyhoeddwyd bod y model gorffenedig o DNA gwynwy wy yn ymestyn 23 metr 84 centimetr dros 15 o fyrddau.
Ac ymunwyd a'r hanner cant o blant ysgol yn y dathlu cwblhau'r model o g么d genetig ar gyfer Albwmin I芒r yr oedd Prydwen Elfed-Owens, cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod a agordd botel o siamp锚n.
Crewyd y model gyda 1,158 p芒r o fasau wedi'u gosod yn ofalus mewn trefn dan oruchwyliaeth y Dr Alun Tomos Jones o Ysgol fferylliaeth Caerdydd, Robyn Wheldon-Williams - ymgynghorydd Gwyddoniaeth yr Eisteddfod - o Brifysgol Bangor a'r Athro John Williams o Brifysgol Caer.
Eglurwyd bod pedwar bas mewn DNA sydd, yn eu trefn sy'n rhoi y c么d genetig.
Dywedodd y Dr Robyn Wheldon-Williams, iddynt fod yn trefnu ers misoedd i dorri'r record.
"Mae'n anodd sicrhau bod y basau i gyd yn y drefn gywir," meddai.
Eglurodd mai'r bwriad oedd ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn gwyddoniaeth a chafwyd rhodd gan aelod o'r is bwyllgor Gwyddoniaeth a Phrifysgol Bangor tuag at y fenter.
"Mae'r gefnogaeth yn golygu y bydd pob ysgol uwchradd yn yr ardal yn elwa o'r prosiect," meddai gan y bydd y model yn cael ei dynnu'n ddarnau ar y diwedd a'i ddosbarthu i ysgolion uwchradd bro'r Eisteddfod.
Mae'r Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg unwaith eto yn un o atyniadau pwysicaf maes yr Eisteddfod yn llawn prysurdeb o gwmpas sawl arddangosfa ddiddorol.
"Mae'n gyfle i'n hymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, sy'n wahanol iawn i'r syniad traddodiadol o'r hyn a geir yn yr Eisteddfod," meddai Prif Weithredwr yr 糯yl, Elfed Roberts.
"Pwy fyddai'n meddwl bod cyfle i dorri record byd ar faes yr Eisteddfod, a phwy fyddai'n credu bod cyfle i wylio sioe o arbrofion cemegol a chymryd rhan mewn llond lle o arbrofion, wrth glywed corau cerdd dant yn cystadlu yn y cefndir? Mae hyn yn rhan o ap锚l yr Eisteddfod," meddai.
Ymunodd disgyblion o nifer o ysgolion 芒'r ymdrech i greu y model a bydd eu camp yn awr yn cael ei chynnig i lyfr gorchestion Guinness.
Straeon eraill
Newyddion
Blogiau 91热爆 Cymru
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.